Prif amcan y traethawd hwn yw asesu'r defnydd o ddulliau cyfranogol o gynhyrchu cyfryngau mewn ie... more Prif amcan y traethawd hwn yw asesu'r defnydd o ddulliau cyfranogol o gynhyrchu cyfryngau mewn ieithoedd lleiafrifol. Gosodir hyn o fewn fframweithiau damcaniaethol cydgyfeiriant cyfryngau, diwylliant cyfranogol ac astudiaethau'r cyfryngau a'r rhyngrwyd mewn ieithoedd lleiafrifol. Ymchwilir i'r dulliau cyfranogol yn y traethawd drwy ddefnyddio cyfuniad o fethodolegau ymchwil meintiol ac ansoddol a naw astudiaeth achos i fapio a dadansoddi ymarfer cyfoes cynhyrchwyr cyfryngau cyfranogol a thorfol.
Ymysg yr astudiaethau achos mae prosiect ymchwil hanes torfol o ddefnydd y Gymraeg ar y we rhwng 1989-2012. Drwy asesu'r hanes a'r dull torfol rhoddir trosolwg newydd ar weithgaredd y gymuned Gymraeg ar y we.
Yn ogystal, cyfunir dulliau meintiol a dadansoddiad cynnwys er mwyn deall defnydd o iaith a chyfranogiad o fewn cyd-destun defnydd Twitter gan dri darllediad teledu byw ar S4C. Tynnir sylw at rôl hashnodau i greu gofodau iaith Gymraeg o fewn gwasanaeth sydd yn milwriaethu yn erbyn defnydd iaith leiafrifol.
Dros bum astudiaeth achos pellach defnyddir dadansoddiad cynnwys a chyfweliadau i roi mewnwelediad manwl i ganfyddiadau, agweddau ac ymarfer cynhyrchwyr cyfryngau ieithoedd lleiafrifol sy'n defnyddio torfoli. Dadleuir bod angen cydnabod gwerthoedd cynhenid y broses a'r weithred o dorfoli mewn iaith leiafrifol a'u rôl ehangach mewn hawlio gofodau techno-ieithyddol.
Yn rhan olaf y traethawd cymharir y casgliadau o'r achosion unigol gan osod hyn yng nghyd-destun fframweithiau damcaniaethol allweddol y traethawd.
Prif gyfraniad y traethawd yw'r cyfraniad at gofnodi hanes y we Gymraeg a'r ymchwil empirig gwreiddiol o ddulliau cynhyrchu cyfryngau cyfranogol yn y Gymraeg a thair iaith leiafrifol arall, gan nodi'r cymhlethdodau ymarferol, ieithyddol a gwleidyddol sy'n codi o ddefnyddio'r dulliau hyn. Hawlir nad yw damcaniaethau eingl-ganolog yn esbonio'n ddigonol effeithiau a phrosesau diwylliannol cyfranogiad a thorfoli mewn cymdeithasau amlieithog a bod angen gwell ystyriaeth o ddiwylliannau o gyfranogiad, cyfyngiadau mewn cyfalaf cyfranogol a chymhelliadau eraill megis atgyfnerthu hunaniaeth ieithyddol.

Uploads
Papers by Rhodri ap Dyfrig