Location via proxy:   [ UP ]  
[Report a bug]   [Manage cookies]                

Jan Hus

diwinydd Tsiec, athronydd a phregethwr (1371-1415)

Diwinydd a diwygiwr Cristnogol o Fohemia oedd Jan Hus ("Cymorth – Sain" ynganiad ; oddeutu 1370 – 6 Gorffennaf 1415) a gychwynnodd fudiad Husiaeth ac a sbardunodd, trwy ei ferthyrdod, y Diwygiad Bohemaidd. Efe oedd un o'r prif arweinwyr rhag-Brotestanaidd.

Jan Hus
FfugenwPaulus Constantius Edit this on Wikidata
Ganwydc. 1371 Edit this on Wikidata
Husinec Edit this on Wikidata
Bu farw6 Gorffennaf 1415 Edit this on Wikidata
Konstanz Edit this on Wikidata
Man preswylMan geni Jan Hus Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBrenhiniaeth Bohemia, yr Ymerodraeth Lân Rufeinig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Charles yn Prague Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfieithydd, diwinydd, academydd, llenor, athronydd, gweinidog bugeiliol, ieithydd, athro, pregethwr, henuriad, bohemegydd Edit this on Wikidata
Swyddathro cadeiriol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Charles yn Prague Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl6 Gorffennaf Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed ef yn Husinec, Teyrnas Bohemia, i deulu tlawd, ac astudiodd ym Mhrifysgol Prag. Yno cafodd ei ordeinio'n offeiriad, a fe'i penodwyd yn athro diwinyddol a deon yr adran athroniaeth. Dylanwadwyd arno gan waith John Wycliffe, a daeth i'r farn bod angen diwygiad mawr ar yr Eglwys Gatholig. Yn ei bregethau, dadleuai'n erbyn nifer o agweddau llygredig y glerigiaeth a'r Babaeth, a mynnai safbwyntiau ei hun ar eglwyseg, simoniaeth, a'r Ewcarist.

Ystyriodd yr Eglwys Gatholig ei ddysgeidigaethau yn heresi, ac felly fe'i hesgymunwyd gan y Pab Alecsander V. Fodd bynnag, ni chafodd y gorchymyn ei orfodi, a ni rhoddwyd taw ar lais Hus. Ennynodd ddicter Ioan XXIII, olynydd Alecsander V, trwy ladd ar yr arfer o werthu maddeuebau. Cafodd yr esgymuniad ei orfodi, a gyrrwyd Hus yn alltud. Galwyd Hus i ymddangos gerbron Cyngor Konstanz i amddiffyn ei ddysgeidiaeth. Yno cafodd ei arestio a'i daflu i'r ddalfa. O'r diwedd, fe'i rhoddwyd ar brawf ar gyhuddiad o heresi, ac wedi iddo wrthod dadgyffesu, fe'i condemniwyd i farwolaeth a'i losgwyd wrth y stanc yn Konstanz.

Wedi ei ddienyddiad, cynyddodd niferoedd a radicaliaeth yr Husiaid, a gwrthryfelasant yn erbyn y drefn Gatholig yn y Tiroedd Tsiec. Gwrthsefyllasant sawl croesgad yn eu herbyn yn Rhyfeloedd yr Husiaid, ac ym 1436 daethant i gyfaddawd â'r eglwys. Byddai poblogaethau Bohemia a Morafia yn fwyafrifol Husaidd hyd at fethiant Gwrthryfel Bohemia yn y 1620au, pan orfodwyd i'r bobl droi'n Gatholigion unwaith eto.

Mae ei ysgrifau sylweddol yn llunio rhan bwysig o lenyddiaeth Tsieceg yr Oesoedd Canol, ac ystyrir Hus fel un o ragflaenyddion pwysicaf y Diwygiad Protestannaidd. Dethlir gŵyl gyhoeddus ar 6 Gorffennaf, diwrnod ei ddienyddiad, yn y Weriniaeth Tsiec er parch iddo.

Bywyd cynnar ac addysg

golygu

Ganed Jan Hus yn Husinec yn ne Teyrnas Bohemia, a oedd yn rhan o'r Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd a'r Ymerodraeth Lân Rufeinig, oddeutu 1370. Nid oedd ei rieni ond tlodion, ac ym mlynyddoedd ei ieuenctid, bu raid iddo yntau lafurio'n galed, disgyblaeth a fu'n ddiamheu o les iddo er ei ddarparu gogyfer â'i yrfa ddyfodol. Er gwaethaf hamodau ariannol y teulu, llwyddodd ei dad i roi iddo addysg elfennol dda, ac yn 10 oed anfonwyd Jan i fynachlog, o bosib wedi i'w dad farw.

Yn ei arddegau aeth i Brifysgol Prag, ym mhrifddinas Bohemia, i astudio athroniaeth a diwinyddiaeth dan Stanislav o Znojma, gŵr o dieddiadau rhyddfrydol, ac oddi wrtho derbyniodd Hus ei symbyliad cyntaf i'r cwrs hwnnw o feddwl a gweithredu sydd yn ei hynodi mewn hanes eglwysig. Yn y brifysgol hon, ym 1396, derbyniodd ei radd meistr, ac ym 1408 ei ddoethuriaeth. Penodwyd ef yn gyffeswr i'r Frenhines Žofie, gwraig Václav IV, ym 1400, ac ym 1401 daeth yn athro diwinyddol yn y brifysgol. Etholwyd ef ym 1402 i swydd gweinidog yng Nghapel Bethlehem, adeilad a gyfodasid i'r diben o bregethu ynddo yn nhafodiaith y Bohemiaid, sef Tsieceg. Dengys yr apwyntiadau hyn pa mor uchel oedd Hus yn ffafr a barn ei gydwladwyr, er nad oedd eto ond dyn ifanc. Byddai ei weinidogaeth yng Nghapel Bethlehem yn bwysig iawn iddo, gan ei bod yn rhoi cyfle iddo ymarfer y gallu neilltuol hwnnw oedd ynddo i annerch yn boblogaidd, ac i ddefnyddio'r gallu hwn i hyrwyddo'r mesurau diwygiadol hynny yr oedd eisoes wedi gosod ei galon arnynt.

Offeiriadaeth

golygu

Tra'r oedd eto yn efrydydd yn y brifysgol, yr oedd meddwl difrifol a chrefyddol Hus yn cael ei boeni'n fynych gan ffyniant ysgafnder ac anfoesoldeb yr offeiriaid, yn ogystal â chan ofergoeledd, anwybodaeth, a drygioni ymhlith y werin. Ymddangosodd Hus yng nghanol tywyllwch mwyaf dygn yr Oesoedd Canol, a sylwer nad oedd un ysgrifennydd nac athro o ddim enwogrwydd yn y 15g heb deimlo ac amlygu gofid dirfawr o blegid sefyllfa druenus yr eglwys. Yr oedd amryw wedi ymddangos eisoes ym Mohemia—Konrád Waldhauser, Jan ze Štěkna, Tomáš Štítný ze Štítného, Jan Milíč ze Kroměříž, Matěj ze Janova—ac wedi dyrchafu eu lleisiau'n erbyn y llygredigaethau oedd yn ffynnu, yn raddol lefeinio meddwl y werin at well sefyllfa ar foesau a chrefydd. Yn ôl traed y gwŷr hyn, wedi ei drwytho'n llwyr â'r un ysbryd ac yn hollol gydnabyddus â'u gweithiau, cychwynodd Hus ar ei yrfa ddiwygiadol. Trwy ei anerchiadau huawdl, teimladwy, ac eofn yng Nghapel Bethlehem, ehangodd Hus derfynau'r mudiad gryn raddau. Ar y cyntaf, cyfyngai ei hun at bynciau oedd a wnelent yn unig â'r werin, ond yn raddol ymosododd yn nerthol ar gamweddau'r offeiriaid. O ganlyniad, ffurfiodd gylch bychan, ffyddlon o gefnogwyr ymhlith y blaenaf, ond cynhyrfodd gynddaredd a chasineb yr olaf.

Heblaw gweithiau'r gwŷr a nodwyd uchod, derbyniodd Huss lawer o symbyliad i'w feddwl oddi wrth weithiau'r Sais John Wycliffe. Darllenodd rai ohonynt mor gynnar â 1391, ond ymddengys na chawsant nemawr o ddylanwad arno hyd gyfnod diweddarach. Trwy eu darlleniad hwy, enillwyd ef i gofleidio syniadau'r Sylweddiad mewn athroniaeth, ac er nad oedd yn cytuno â holl ddaliadau diwinyddol Wycliffe, yr oedd yn ddiamau'n ddyledus iddo am lawer o wybodaeth grefyddol, a chydnabyddai hynny'n fynych, gan amlygu dymuniad fod ei enaid yn angau yn mynd i'r un lle a'r eiddo Wycliffe. Fel amddiffynydd Wycliffe y daeth Hus i wrthdaro'n gyntaf â Zbyněk Zajíc, Archesgob Prag ers 1403. Ymdrechodd Zbyněk at ddiwreiddio'r heresi Wycliffaidd yn ei archesgobaeth, ac aeth cyn belled ag i alltudio a llosgi'n farw amryw o'r rhai a goleddent syniadau'r diwygwyr Seisnig am na ddadgyffesent y syniadau hynny. Yn erbyn y creulondeb hwn, er nad oedd yn cytuno â syniadau'r rhai a ddioddefent, protestiodd Hus yn nerthol, ac ysgrifennai at yr archesgob:

"Pa feth beth yw hyn, pan y mae dynion sydd yn euog o ymlosgach a phob math o anfadrwydd yn dianc yn ddigosb, y mae offeiriaid tlodion, sydd yn dadwreiddio pechodau, yn cyflawni eu dyletswydd, ac yn meddu pob dyledus barch i'ch llywodraeth chwi, heb ddilyn oferchwant, ond yn rhad, er mwyn Duw, yn llafurio yn yr efengyl, yn cael eu taflu i garchar fel hereticiaid, ac yn dioddef alltudiaeth am bregethu yr efengyl?"

Ymddengys fod y gwrthdystiadau hyn, ar y cyntaf, yn cael gwrandawiad gan Zbyněk. O leiaf, nid aeth ymlaen y pryd hwn gydag erledigaeth y Wycliffiaid, ac nid ymddengys fod Hus wedi ei gythruddo o blegid ei sêl yn eu plaid. Ond cafwyd achos mwy pwysig yn erbyn Hus yn yr ymrafaelion oedd y pryd hynny yn cynhyrfu'r holl wledydd Pabyddol, o ganlyniad i'r Sgism Orllewinol. Daeth yr archesgob allan o blaid Grigor XII, yn erbyn y Brenin Václav IV, a chymerodd Hus blaid y brenin, ac arferodd ei holl ddylanwad dros ei achos. Nid llawer o amser cyn hyn, digwyddodd amgylchiad—drwy ymdrechion Hus yn bennaf—a fu'n foddion i gynyddu i raddau helaeth ei allu i wasanaethu'r brenin. Hyd yn hyn, yr oedd mwyafrif efrydwyr Prifysgol Prag yn Almaenwyr, ac yn meddu'r rhagorfraint o dair pleidlais ym mhob achos a berthynai i'r brifysgol, tra nad oedd gan yr efrydwyr Bohemaidd ond un bleidlais. Yn erbyn hyn, fel gweithred anghyfiawn, yr oedd Hus, gyda chymorth un o'i brif ddilynwyr, Jeroným Pražský, ac ysbryd gwladgarol llawer o'u cydwladwyr, wedi bod yn llwyddiannus o'r diwedd yn ei ymdrechion. Ym 1409, rhoddodd y brenin y tair pleidlais i'r Bohemiaid, a'r un bleidlais i'r Almaenwyr. O ganlyniad, ymneilltuoedd yr olaf fel plaid, yn rhifo, fe ddywedir, 5,000. Yn ebrwydd wedi hynny, dyrchafwyd Hus i fod yn llywydd y brifysgol, ond tra y galluogwyd ef fel hyn i wasanaethu'r brenin yn fwy effeithiol yn erbyn yr archesgob a'r offeiriaid, bu'r rhan a gymerasai yn achlysuriad ymneilltuaeth yr Almaenwyr, ymhen amser, o niwed mawr iddo. Yr oedd drwy hynny nid yn unig wedi digio'n aruthr yr archesgob ac offeiriadaeth Bohemia, ond lluosogwyd gelynion iddo ymhob man lle'r enciliasai'r efrydwyr a'r athrawon Almaenig; tra'r bu'r golled a achoswyd gan ymadawiad cynifer o breswylwyr Prag yn foddion i droi oddi wrtho ffafr ei gyd-ddinasyddion, ac i hyrwyddo ymdrechion ei elynion i godi plaid yn ei erbyn.

Yn bresennol, adnewyddodd yr archesgob ei erledigaeth ar y Wycliffiaid, a phenderfynai roddi taw cyflawn ar y diwygwyr o hyn allan. Ym 1410, awdurdodwyd ef gan y Pab Alecsander V i atal pregethu mewn capeli preifat ac i gasglu a llosgi holl weithiau Wycliffe. Yn wyneb hyn oll, parhaodd Hus i bregethu fel o'r blaen yng Nghapel Bethlehem, lle y gwrandewid arno fyth gan dyrfaoedd edmygus. Parodd hyn i'r archesgob ei gyhuddo wrth y pab o heresi, ac o ganlyniad, gorchmynwyd uddo ymddangos yn Bologna, o flaen y Cardinal Oddone Colonna, i ateb drosto'i hun. Gwrthododd Hus ymddangos, ac o'r herwydd, ysgymunwyd ef. Er i Zbyněk ymdrechu rhoi'r condemniad mewn gweithrediad, yr oedd dylanwad Hus gyda'r brenin a'r bobl eto mor fawr, fel y gorfu iddo roddi'r ymgais i fyny, ac hyd yn oed i alw yn ôl ei gyhuddiad o heresi, ac i erfyn ar y pab ei hun i ddileu'r condemniad.

Ym 1411 bu farw'r Archesgob Zbyněk, a dilynwyd ef yn ei swydd gan Albík z Uničova, gŵr nad oedd ganddo ddiddordeb o gwbl mewn ymrafaelion yn achos y brenin. O dan ei lywodraeth ef, gallasai Hus fod mewn heddwch pe na buasai i amgylchiadau ei orfodi i gymryd sefyllfa fwy gwrthwynebus fyth i lygredigaethau'r Babaeth. Ym 1412, anfonwyd archlythyr gan y pab yn gorchymyn croesgad yn erbyn Ladislao, brenin Napoli, gan addo maddeueb gyflawn am bob drwg i bob un a ymunai â'r frwydr, neu a roddai arian at yr ymgyrch. Cynhyrfodd hyn eiddigedd Hus i'r eithaf, ac ymosododd yn ffyrnig ar yr archeb gyda'i dafod a'i ysgrifbin. Yn hyn, ymunwyd ag ef yn selog gan Jeroným, yr hwn, heb fod yn foddlon ar dywallt ei huodledd tanllyd ar y pwnc, a aeth i goeg-gyhoeddi llythyr maddeuant y pab hyd yr heolydd, yr hwn lythyr a grogasai am wddf putain gyffredin, ac a losgwyd wedi hynny ar ganol yr heol. Cynhyrfodd yr ymdrafodaethau hyn ddigofiant y pab, ac yr oedd yn ormod hyd yn oed gan y brenin ei oddef. O ganlyniad, pan osodwyd Hus eilwaith o dan gondemniad y pab, bu raid iddo ymostwng. Gadawodd Brag ym 1413, ac ymneilltuodd i Husinec, ond cyn hynny apeliodd oddi wrth y pab at Grist dros uniondeb ei olygiadau, y rhai a amddiffynnodd mewn llyfr a alwodd De Ecclesia. Yn Husinec, defnyddiodd ei amser i ysgrifennu llythyrau at ei gyfeillion, i gyfansoddi amddiffyniadau ychwanegol i'w olygiadau, ac i bregethu'n achlysurol yn y meysydd agored.

Achos llys a dienyddiad

golygu

Yn y cyfamser, nid oedd ei elynion wedi ei anghofio, nac wedi ildio yn eu penderfyniad i'w ddinistrio. Ym 1414, agorwyd Cyngor Eglwysig Konstanz, lle y gorchymynwyd i Hus ymddangos i ateb y cyhuddiad o heresi. Er fod y gorchymyn hwn o eiddo'r Ymerawdwr Glân Rhufeinig Sigismund yn peri iddo ymddangos o flaen ei elynion, cydymffurfiodd ag ef yn eofn fel y gallai ateb ei gyhuddwyr. Cyn ymadael o Brag, amcanodd amddiffyn ei ddiniweidrwydd drwy ymostwng i gael ei holi o flaen y chwilyswr pabaidd, yr hwn ni chaffai ddim yn hereticaidd ynddo. Hefyd, derbyniodd oddi wrth yr ymerawdwr lythyr o amddiffyniad yn ystod y daith, ac oddi wrth y pab derbyniodd y sicrwydd cryfaf o'i nawdd. Yn cael ei ddilyn gan amryw bendefigion Bohemaidd, gadawodd Prag ar 11 Hydref 1414, a chyrhaeddodd Esgob-dywysogaeth Konstanz ar 3 Tachwedd.

Am y pedair wythnos cyntaf o'i arosiad yno, ni wnaed ac ni ddywedwyd dim ynghylch ei achos. Gan ddisgwyl y caffai gyfarch y cyngor, defnyddiodd y cyfamser i baratoi ei amddiffyniad. Ond ni fwriadai ei elynion iddo gael y fath ragorfraint, ac ar 28 Tachwedd taflwyd ef i ddaeargell ffiaidd. Trwy gyfryngiad yr ymerawdwr, symudwyd ef oddi yno i ystafell lanach ac iachach, lle yr arosodd mewn caethiwed llym hyd 24 Mawrth 1415. Wedi hyn, er gwaethaf gwrthdystiadau'r barwniaid Bohemaidd, symudwyd ef i Gastebll Gottleben, lle'r ymddygwyd ato gyda'r llymder mwyaf, o dan yr hyn y bu i'w iechyd, yr hwn oedd eisoes wedi gwanychu'n fawr, adfeilio'n llwyr. O'r diwedd, wedi curio gan afiechyd a diffygio gan ddioddefaint, dygwyd ef o flaen y cyngor, ond ymddygwyd ato yma fel un oedd eisoes wedi ei gondemnio.

Ar ei ymddangosiad cyntaf, 5 Mehefin, pa bryd bynnag y ceisiai efe siarad yn ei amddiffyniad ei hun, gwaeddid a thrystid yn y fath fodd fel nas gellid deall gair a ddywedai. Ar ei ail a'i drydydd ymddangosiad, 7 ac 8 Mehefin, rhoddwyd atalfa ar y trystio gwaradwyddus hwn gan bresenoldeb yr ymerawdwr, ond ychydig o ryddid a gafodd Hus er hyn i amddiffyn ei hun. Mynnai'r cyngor, er ei waethaf, briodoli iddo gyfeiliornadau na chofleidiodd mohonynt erioed, ac ni fynent ddim ganddo ond dadgyffesiad trylwyr ohonynt. Yn ofer y gofynai, "Pa fodd y dadgyffesaf yr hyn ni honais erioed?" Yr oedd y cyngor yn anargyhoeddadwy ac ystyfnig, a thaflwyd Hus eilwaith i garchar lle'r oedd i wneud i fyny ei feddwl, naill i farw neu i ddadgyffesu. Gwnaed amryw ymdrechion gan genhadon oddi wrth y cyngor i beri iddo ddadgyffesu, ond fel yr oedd diwedd y merthyr yn nesau, ymddyrchafodd ei ysbryd o'i fewn, a glynodd yn ddiysgog wrth lwybr cysondeb a gwirionedd. Meddai, mewn llythyr at ei gyfeillion ym Mhrag:

"Yr wyf yn ysgrifennu hyn mewn carchar ac mewn cadwynnau, gan ddisgwyl yfory cael fy nghondemnio i farw, ac yn llawn o obaith yn Nuw na bydd i mi gilio oddi wrth y gwirionedd, na dadgyffesu cyfeiliornadau a briodolir i mi gan dystion gau."

 
Darluniad o Jan Hus yn cael ei losgi wrth y stanc ym Meibl Lladin Martinicka (oddeutu 1434), y portread hynaf o'r dyn mae'n debyg.

Cyhoeddwyd y condemniad disgwyliedig ar 6 Gorffennaf, ym mhresenoldeb yr ymerawdwr a'r cyngor. Pan ddarllenwyd ef iddo, syrthiodd ar ei liniau, a dywedai, "Arglwydd Iesu, maddeu i fy ngelynion! Gan y gwyddost fy mod wedi fy nghyhuddo ar gam ganddynt, ac iddynt ddefnyddio gau-dystiolaethau ac athrod yn fy erbyn, maddeu iddynt er mwyn dy fawr drugaredd." Chwarddodd ei elynion yn uchel, fel yr esgynai y weddi hon drostynt i'r nefoedd, ac yna tynwyd ei wisg offeiriadol oddi amdano, a gosodwyd meitr o bapur ar ei ben, gyda darluniau o gythreuliaid wedi eu tynnu arno, ynghyd â'r geiriau "Arweinydd hereticiaid". Yna dywedai ei farnwyr, "yn awr, cyflwynwn dy enaid i'r cythreuliaid uffernol". "Ond yr wyf fi", ebe Hus, gan godi ei lygaid tua'r nefoedd, "yn cyflwyno fy enaid, yr hwn a brynwyd genyt ti, i'th ddwylaw di, O Arglwydd Iesu Grist!" Yna arweiniwyd ef i le'r dienyddiad. Pan rwymwyd ef wrth y stanc, dywedai, "Yn ewyllysgar y gwisgaf y cadwynau hyn er mwyn Crist, yr hwn a wisgodd rai garwach fyth". Unwaith drachefn gofynwyd iddo ddadgyffesu, ond ei ateb oedd, "Pa gyfeiliornad a ddadgyffesaf, pan nad wyf yn ymwybodol o un? Prif amcan fy mhregethau ydoedd dysgu edifeirwch a maddeuant pechodau yn unol â gwirionedd efengyl Iesu Grist, ac ag esboniadau'r Tadau Sanctaidd; gan hynny yr wyf yn barod i farw gyda chalon lawen." Yna taniwyd y ffagodau, ac fel yr oedd eu fflamau a'u mwg yn ymesgyn o gylch y merthyr, gwaeddai allan, "Iesu, Fab y Duw byw, cymer drugaredd arnaf". Dywedodd hyn ddwywaith, ond cyn y gallai orffen yr ymadrodd yr ail waith ataliwyd ei lais gan y fflamau, y rhai a chwythid gan y gwynt tuag ato. Eto, symudai ei wefusau megis mewn gweddi, a daliai'n ddiysgog nes gollwng ei anadliad diweddaf. Wedi i'r fflamau wneud eu gwaith, casglwyd ei ludw, a chludwyd hwy i Afon Rhein, fel na lygrid y tir gan un gronyn ohonynt, ac na chaffai ei gyfeillion dalu'r parch lleiaf i'w weddillion.

Cyfeiriadau

golygu

Darllen pellach

golygu
  • Matthew Spinka, John Huss: A Biography (Princeton, New Jersey: Princeton University Press, 1968).
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.