Esgob Bangor
mae Esgob Bangor yn gyfrifol am Esgobaeth Bangor, sy'n cynnwys Môn, y rhan fwyaf o Wynedd a darn bach o Bowys.
Mae Esgob Bangor yn gyfrifol am Esgobaeth Bangor, sy'n cynnwys Môn, y rhan fwyaf o Wynedd a darn bach o Bowys. Mae'r Eglwys Gadeiriol ym Mangor, a phreswylfa swyddogol yr esgob yw Tŷ'r Esgob ym Mangor.
Sefydlwyd esgobaeth yn hen Deyrnas Gwynedd gan Deiniol Sant tua'r flwyddyn 546. Yn ddiweddarach daeth yr esgobaeth dan reolaeth Archesgob Caergaint, a bu cryn dipyn o ddadlau rhwng yr Archesgob a Thywysogion Gwynedd ynghylch penodi esgob, yn enwedig yn ystod teyrnasiad Gruffudd ap Cynan ac Owain Gwynedd. Yn dilyn marwolaeth y Gwir Barchedig Anthony Crockett, yr 80fed esgob, etholwyd Andrew John i'r swydd ym mis Hydref 2008.
Rhestr o esgobion Bangor
golyguCyfnod | Enw | Nodiadau |
---|---|---|
c546 hyd 572 | Deiniol | Sant Deiniol; sefydlodd fynachlog ym Mangor |
572 hyd c768 | anadnabyddus | |
c768 hyd 809 | Elfodd | Disgrifir yn y Brutiau fel "Prif esgob Gwynedd", efallai Esgob Bangor. |
809 hyd c904 | anadnabyddus | |
c904 hyd 944 | Morlais | |
??? hyd 1055 | anadnabyddus | |
c1050 hyd ???? | Dyfan | |
c1081 hyd ???? | Revedun | |
1092 hyd 1109 | Hervey le Breton | Bu raid iddo ffoi o'r esgobaeth ddiwedd y 1090au. Gwnaed ef yn Esgob Ely |
1109 hyd 1120 | Christopher Meare | Mae'n debyg na allodd gymeryd meddiant o'i esgobaeth |
1120 hyd 1139 | Dafydd y Sgotyn | |
1139 hyd 1161 | Meurig | |
1165 hyd 1177 | Arthur o Enlli (answyddogol) |
Penodwyd Arthur o Enlli gan Owain Gwynedd c. 1165 a chysegrwyd ef yn Iwerddon, ond ni derbyniwyd ef gan Archesgob Caergaint. |
1177 hyd c1190 | Gwion (Guy Rufus) |
|
c1191 hyd 1195 | vacant | Am bedair blynedd |
1195 hyd 1197 | Alban (Alan) |
Prior of St Ioan o Jeriwsalem |
1197 hyd 1212 | Robert o Amwythig | |
1215 hyd 1236 | Cadwgan I o Landyfai (Martin) |
|
1236 hyd 1240 | Hywel | |
1240 hyd 1267 | Richard | |
1267 hyd 1303 (or 1307) | Anian I | Archddiacon Mon |
1303 hyd 1306 | Cadwgan II | |
1307 hyd 1300 | Gruffudd ap Iorwerth | |
1320 hyd 1327 | Lewis | Yn ôl Heylyn |
1309 hyd 1328 | Einion Sais | Yn ôl Le Neve |
1327 hyd 1357 | Matthew de Englefield (Madog ap Iowerth) |
|
1357 hyd 1366 | Thomas de Ringstead | |
1366 hyd 1370 | Gervase de Castro | |
1370 hyd 1371 | Hywel ap Goronwy | |
1371 hyd 1375 | John Gilbert | |
1375 hyd 1400 | John Swaffham styled John Clovensis yn ôl Heylyn |
Esgob Cloyne, Iwerddon |
1400 hyd 1404 | Richard Young | Daeth yn Esgob Rochester |
1404 hyd 1407 | Lewis Byford | |
1407 | Gruffudd Yonge | Apwyntiwyd gan Owain Glyndŵr |
1408 hyd 1418 | Benedict Nicholls | |
1418 hyd 1424 | William Barrow | Canon o Lincoln; daeth yn Esgob Caerliwelydd |
1424 hyd 1436 | John Clitherow (neu Nicholas?) |
Canon Chichester[1] |
1436 hyd 1448 | Thomas Cheriton | |
1448 hyd 1454 | John Stanbury | |
1454 hyd 1464 | James Blakedon | Esgob Achad-Fobhair |
1464 hyd 1496 | Thomas Edenham (alias Richard Evendon) |
|
1496 hyd 1500 | Henry Deane | Prior Llanthony ac Arglwydd Ganghellor Iwerddon |
1500 hyd 1504 | Thomas Pigot | |
1504 hyd 1509 | John Penny | Daeth yn Esgob Caerliwelydd |
1509 hyd 1534 | Thomas Skeffington | Abad Waverley |
1534 hyd 1539 | John Capon alias John Salcott |
|
1539 hyd 1541 | John Bird | Daeth yn Esgob Caer |
1541 hyd Mawrth 1552 | Arthur Bulkeley | Bu farw yn ystod ei dymor |
Mawrth 1552 hyd 1555 | dim esgob | am dair blynedd |
1555 hyd 1558 | William Glyn | Llywydd Coleg y Breninesau, Caergrawnt. Yr esgob Catholig olaf. Penodwyd Morys Clynnog fel olynydd iddo, ond bu raid iddo ffoi i Rufain cyn cael ei gyesgru. |
1559 hyd 1566 | Rowland Meyrick | Canghellor Tyddewi |
1566 hyd 1585 | Nicholas Robinson | |
1585 hyd 1595 | Hugh Bellot | Daeth yn Esgob Caer |
1595 hyd 1598 | Richard Vaughan | Archddiacon Middlesex; Daeth yn Esgob Caer |
1598 hyd 1616 | Henry Rowlands | |
1616 hyd 1631 | Lewis Bayley | |
1631 hyd 1633 | David Dolben | |
1633 hyd 1637 | Edmund Griffith | Deon Bangor |
1637 hyd 1666 | William Roberts | Is-ddeon Wells |
1666 hyd 1673 | Robert Morgan | Archddiacon Meirionnydd |
1673 hyd 1689 | Humphrey Lloyd | Deon Llanelwy |
1689 hyd 1701 | Humphrey Humphreys | Deon Bangor; daeth yn Esgob Henffordd |
1701 hyd 1715 | John Evans | Daeth yn Esgob Meath, Iwerddon. |
1715 hyd 1721 | Benjamin Hoadley | Rheithor St Peter's-le-Poor, Llundain; daeth yn Esgob Henffordd |
1721 hyd 1723 | Richard Reynolds | Deon of Peterborough; daeth yn Esgob Lincoln |
1723 hyd 1728 | William Baker | Warden Coleg Wadham, Prifysgol Rhydychen; Oxford; daeth yn Esgob Norwich |
1728 hyd 1734 | Thomas Sherlock | Dean of Chichester; daeth yn Esgob Salisbury |
1734 hyd 1737 | Charles Cecil | Yn Esgob Bryste cynt |
1737 hyd 1743 | Thomas Herring | Deon Rochester; Daeth yn Archesgob Efrog |
1743 hyd 1748 | Matthew Hutton | Daeth yn Archesgob Efrog, yna'n Archesgob Caergaint |
1748 hyd 1756 | Zachary Pearce | Deon Winchester; daeth yn Esgob t Rochester |
1756 hyd 1769 | John Egerton | Deon Henffordd; t |
1769 hyd 1774 | John Ewer | Cynt yn Esgob Llandaf |
1774 hyd 1783 | John Moore | Deon Caergaint |
1783 hyd 1800 | John Warren | Cynt yn Esgob Tyddewi |
5 April 1800 to 1806 | William Cleaver | Cynt yn Esgob Caer; daeth yn Esgob Llanelwy |
13 Rhagfyr 1806 hyd 1809 | John Randolph | Cynt yn Esgob Rhydychen |
12 Awst 1809 hyd 9 Gorffennaf 1830 | Henry William Majendie | Cynt yn Esgob Caer; bu farw yn ystod ei dymor |
10 Hydref 1830 hyd 19 Ebrill 1859 | Christopher Bethell | Cynt yn Esgob Exeter; bu farw yn ystod ei dymor |
12 Mai 1859 hyd 1890 | James Colquhoun Campbell | Archddiacon Llandaf |
1890 hyd 1898 | Daniel Lewis Lloyd | |
1899 hyd 1924 | Watkin Herbert Williams | Deon Llanelwy o 1892 hyd 1899 |
1925 hyd 1928 | Daniel Davies | |
1928 hyd 1944 | Charles Alfred Howell Green | Archesgob Cymru 1934-1944 |
1944 hyd 1948 | David Edwards Davies | |
1949 hyd 1956 | John Charles Jones | |
1957 hyd 1982 | Gwilym Owen Williams | Archesgob Cymru 1971-1982 |
1982 hyd 1992 | John Cledan Mears | |
1992 hyd 1999 | Barry Cennydd Morgan | Wedyn yn Esgob Llandaf ac Archesgob Cymru 2002- |
2000 hyd 2004 | Francis James Saunders Davies | Etholwyd 1999 |
2004 hyd 2008 | Phillip Anthony Crockett | Cynt yn Archddiacon Caerfyrddin a Ficer Cynwyl Elfed; bu farw yn ystod ei dymor. |
2008 - | Andrew John | Cynt yn Archddiacon Aberteifi. |
Llyfryddiaeth
golygu- M.L. Clarke, History of Bangor Diocese, cyf. 1 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1969))
- Joseph Haydn, Haydn's Book of Dignities (1894; ailargraffwyd Caerfaddon, 1969)
- Whitaker's Almanack 1883 - 2004 (Llundain: Joseph Whitaker and Sons Ltd/A&C Black)
- http://www.esgobaethbangordiocese.org
- Esgobion Bangor o www.british-history.ac.uk (Saesneg)
Gweler hefyd
golygu- ↑ John Le Neve (1854). Fasti Ecclesiae Anglicanae: Or A Calendar of the Principal Ecclesiastical Dignitaries in England and Wales, and of the Chief Officers in the Universities of Oxford and Cambridge, from the Earliest Time to Year M.DCC.XV (yn Saesneg). University Press. t. 102.