Genau'r Glyn (cwmwd)
Cwmwd yng ngogledd eithaf teyrnas Ceredigion ar lan Bae Ceredigion oedd Genau'r Glyn yn yr Oesoedd Canol a defnyddir yr enw heddiw am y gymuned. Mae'r gymuned yn cynnwys: Llandre, Dôl-y-bont a Rhydypennau.[1] Gyda chymydau Perfedd a Chreuddyn roedd yn rhan o gantref Penweddig.
Math | cwmwd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Penweddig |
Gwlad | Cymru |
Yn ffinio gyda | Cyfeiliog, Perfedd (cwmwd) |
- Am y gymuned fodern yng Ngheredigion, gweler Geneu'r Glyn.
Ei ffin naturiol yn y gogledd oedd aber Afon Dyfi, lle wynebai Ystumanner, cwmwd deheuol cantref Meirionnydd dros y dŵr. Yn y dwyrain ffiniai â chantref Cyfeiliog ym Mhowys ac â chwmwd Perfedd yn y de dros Afon Clarach. Dyma gwmwd mwyaf gogleddol cantref Penweddig.
Mae gan Genau'r Glyn nifer o hynafiaethau ac mae'n ardal gyfoethog ei llên gwerin. Ceir cysylltiadau â Hanes Taliesin a goffheir yn enwau lleol fel pentref Tre Taliesin a chromlech Bedd Taliesin. Yma hefyd y lleolir chwedl Cantre'r Gwaelod. Mae Cors Fochno, ar lan Afon Dyfi, yn cael ei chrybwyll yn aml yn y brudiau fel safle brwydr dynghedfennol rhwng y Cymry a'u cynghreiriad Celtaidd a'r Saeson. Cysylltir y sant Cynfelin â'r cwmwd hefyd. Gerllaw, saif Castell Gwallter a adeiladwyd gan Walter de Bec yn ystod arhosiad byr y Normaniaid yng Ngheredigion.[1]
Roedd y bardd Deio ab Ieuan Du (fl. tua 1450 - 1480) yn frodor o blwyf Llangynfelyn, a chafodd ei gladdu yno. Trigai mam Edward Llwyd, sef Bridget Pryse, yng Nglanffraid (Glanffred) am gyfnod.
Mae'r enw Genau'r Glyn yn dal i gael ei ddefnyddio heddiw i gyfeirio at yr ardal hanesyddol hon. Cedwir yr enw o hyd yn enw pentref Llanfihangel Genau'r Glyn.