Hirfryn
Cwmwd canoloesol yn gorwedd yn y Cantref Bychan yn Ystrad Tywi, de-orllewin Cymru, oedd Hirfryn. Roedd yn rhan o deyrnas Deheubarth ac yn ddiweddarach daeth yn rhan o Sir Gaerfyrddin.
Gorweddai Hirfryn yn rhan ogleddol y Cantref Bychan. Ffiniai â Cwmwd Perfedd, i'r de, yn y Cantref Bychan, cwmwd Mallaen yn Y Cantref Mawr i'r gorllewin, darn o gwmwd Pennardd yng Ngheredigion i'r gogledd-orllewin, cantref Buellt yn Rhwng Gwy a Hafren i'r gogledd, ac a Cantref Selyf yn nheyrnas Brycheiniog i'r dwyrain.
Gorweddai'r cwmwd ar lan ddwyreiniol Afon Tywi, rhwng yr afon honno ac ardal Mynydd Epynt i'r dwyrain. Roedd yn cynnwys castell Llanymddyfri.