Oes yr Haearn
Cyfnod cynhanes sydd yn dilyn Oes yr Efydd yw Oes yr Haearn. Fe'i gelwir felly am fod haearn yn cael ei ddefnyddio ar raddau helaeth am y tro cyntaf. Er fod offer wedi eu gwneud o efydd yn cryfach, mae'n haws cael gafael ar haearn ac felly roedd yn cael ei defnyddio'n aml.
Oes yr Haearn ym Mhrydain
golyguCychwynnodd Oes yr Haearn ym Mhrydain tua'r 5 CC, ond mae rhai yn dadlau bod hi'n cychwyn llawer hwyrach, tua'r ganrif gyntaf CC. Roedd hi'n parhau hyd at y bedwaredd ganrif OC. Mae adeiladau amddiffynnol a godid yn ystod y cyfnod hwn yn cynnwys, er enghraifft, y Brochau yn yr Alban a bryngaerau fel Castell Dinas Brân (ger Llangollen).
Canolbarth Ewrop
golyguGelwir cyfnod cynnar Oes yr Haearn yng nghanolbarth Ewrop y Diwylliant Hallstatt (Hallastat C a D, 800-450 CC). Ar ôl hynny daeth y cyfnod a adwaenir fel cyfnod Diwylliant La Tène (yn cychwyn tua 450 CC).