Capel yr Ogof Laeth
Mae Capel Ogof Laeth y Forwyn Fair ( Lladin: Crypta lactea; Arabeg: مغارةآلسثئ) a elwir hefyd yn syml, yn Capel yr Ogof Laeth yn gapel Catholig ym Methlehem yn y Lan Orllewinol ym Mhalestina, a godwyd ym 1872. [1][2][3][4] Ers amseroedd Bysantaidd, mae'r lle wedi bod yn ganolfan pererindod Gristnogol bwysig. Yn rhan o'r adeiladau ceir hefyd gysegrfa a mynachlog yr Eglwys Gatholig ym Mhalestina. Mae'r Status Quo, sef dealltwriaeth 250 oed rhwng cymunedau crefyddol, yn berthnasol i'r safle.[5]
Hanes
Adeiladwyd y capel Catholig presennol ym 1872 ar safle hen eglwys Bysantaidd o tua'r 5g, a dim ond rhan o'r llawr brithwaith mosäig sydd ar ôl.
Arwyddocâd
Dywed traddodiad Cristnogol mai dyma'r man lle cafodd y "Teulu Sanctaidd" loches yn ystod cyflafan Herodr pan laddwyd llawer o blant, cyn i'r teulu ffoi i'r Aifft. Mae'r enw'n deillio o'r stori bod "diferyn o laeth" y Forwyn Fair wedi cwympo ar lawr yr ogof a newid ei liw i wyn.[6]
Mae rhai pobl yn ymweld â'r lle, sy'n cynnwys tair ogof wahanol, gan obeithio gwella o'u problemau, yn benodol, cyplau anffrwythlon,[7] a honnir bod y gysegrfa yn fan lle mae gweddïau dros blant yn cael eu hateb yn wyrthiol.[8]
Gweld hefyd
- Eglwys y Santes Catrin, Bethlehem
- Capel Maes y Bugail, Bethlehem
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
- http://www.bethlehem-city.org/cy/milkgrotto Gwefan bwrdeistref Betlehem
- ↑ «La Gruta de la Leche en Belén» (Spanish)
- ↑ Kohn, Michael (2007-01-01). Israel & the Palestinian Territories (yn Saesneg). Lonely Planet. ISBN 9781864502770.
- ↑ Kirk, Martha Ann (2004-01-01). Women of Bible Lands: A Pilgrimage to Compassion and Wisdom (yn Saesneg). Liturgical Press. ISBN 9780814651568.
- ↑ Korb, Scott (2010-03-18). Life in Year One: What the World Was Like in First-Century Palestine (yn Saesneg). Penguin. ISBN 9781101186015.
- ↑ Cust, L. G. A. (1929). The Status Quo in the Holy Places. H.M.S.O. for the High Commissioner of the Government of Palestine.
- ↑ Ham, Anthony; Barbarani, Sofia; Lee, Jessica; Maxwell, Virginia; Robinson, Daniel; Sattin, Anthony; Symington, Andy; Walker, Jenny (2015-08-01). Lonely Planet Middle East (yn Saesneg). Lonely Planet. ISBN 9781743609637.
- ↑ http://www.ncregister.com/site/article/the_milk_grotto_church_heals_infertile_couples
- ↑ Serving the needy among the communities of Bethlehem, Custodia Terra Sanctae, 8 January 2017. Retrieved 19 December 2018