Colm Tóibín
Colm Tóibín | |
---|---|
Ganwyd | 30 Mai 1955 Enniscorthy |
Man preswyl | Swydd Wexford |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bardd, nofelydd, newyddiadurwr, dramodydd, beirniad llenyddol, athro, awdur ysgrifau, awdur storiau byrion, llenor, sgriptiwr |
Adnabyddus am | The Heather Blazing, The Story of the Night, The Blackwater Lightship, The Master, Brooklyn, The Empty Family, The Testament of Mary |
Prif ddylanwad | Frank O'Connor, Henry James, Ernest Hemingway, Elizabeth Bishop, D. H. Lawrence |
Gwobr/au | Gwobr Llyfrau Costa, Gwobr Lenyddol Lambda, Gwobr PEN Iwerddon, Gwobr E. M. Forster, International Dublin Literary Award, Encore Award, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Joan B. Cendrós International Award, Folio Prize, Runciman Award, Gwobr Hawthornden, Medal Bodley, AWB Vincent Literary Award, Q130553019, Q130553019 |
Gwefan | http://colmtoibin.com/, http://www.colmtoibin.com/ |
Mae Colm Tóibín (ganwyd 30 Mai 1955) yn nofelydd, ysgrifennwr storïau byr, ysgrifwr, dramodydd, newyddiadurwr, adolygydd a bardd Gwyddelig.
Ar hyn o bryd maeTóibín yn Irene a Sidney B. Silverman, Athro yn y Dyniaethau ym Mhrifysgol Columbia , ac yn olynnydd i Martin Amis fel athro ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Manceinion. Penodwyd ef yn Ganghellor Prifysgol Lerpwl yn 2017.[1] Fe'i ganmolid fel hyrwyddwr o leiafrifoedd wrth iddo gasglu Wobr PEN 2001 Iwerddon,[2] hefyd yn yr un flwyddyn, fe'i enwid yn un o'r '300 Prif Ddeallusyn Prydain' ym mhapur The Observer er ei fod yn Wyddel.[3]
Bywyd Cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Tóibín yn Enniscorthy, Sir Wexford, yn y de-ddwyrain Iwerddon yn 1955 iw rieni Bríd a Michael Tóibín.[4] Yntau oedd yr ail ieuengaf o bump o blant. Roedd ei daid, Patrick Tobin, yn aelod o'r IRA, a hefyd ei hen-ewythr Michael Tobin. Cymerodd Patrick Tobin ran yn y Gwrthryfel 1916 yn Enniscorthy a cafodd ei gaethiwo yn Frongoch yng Nghymru. Athro oedd tad Tóibín a oedd yn ymwneud â'r blaid wleidyddol Fianna Fáil yn Enniscorthy; bu farw pan oedd Colm yn 12 mlwydd oed.
Magwyd Tóibín mewn cartref lle roedd, meddai, "cryn dipyn o dawelwch."[5] Nid oedd yn medru darllen tan iddo fod yn naw mlwydd oed, ac roedd ganddo atal dweud garw.[6] Derbyniodd ei addysg uwchradd yng Ngholeg San Pedr, Sir Wexford, lle yr oedd yn preswylio rhwng 1970 a 1972. Yn ddiweddarach siaradodd am ddod o hyd i rai o'r offeiriaid yno'n ddeniadol.[7]
Ym mis Gorffennaf 1972, yn 17 oed, cafodd waith haf yn gweithio tu ôl i'r bar yn y Grand Hotel yn Tramore, Sir Waterford, yn gweithio o chwech yn y nos hyd at ddau yn y bore. Treuliodd ei ddyddiau ar y traeth, yn darllen The Essential Hemingway, a honai fod copi o'r llyfr hwn dal yn ei feddiant a'i "dudalennau wedi eu lliwio gan ddŵr môr." Datblygodd y llyfr hwn ei ddiddordeb gyda Sbaen, gan arwain at ddymuno ymweld â'r wlad, a rhoddodd iddo "syniad o ryddiaith fel rhywbeth hudolus, smart a siapus, a syniad o gymeriad mewn ffuglen fel rhywbeth rhyfeddol ddirgelus, yn deilwng o gydymdeimlad ac edmygedd, ond hefyd yn anniffiniol. Ac yn fwy na dim, pleser pur y brawddegau a'u rhythmau, a'r swm o emosiwn a oedd yn byw yn yr hyn nad oedd yn cael ei ddweud, beth oedd rhwng y geiriau a'r brawddegau."[8]
Symudodd ymlaen i Goleg Prifysgol Dulyn, gan raddio ym 1975. Yn syth ar ôl graddio, gadawodd am Barcelona. Ysbrydolwyd nofel gyntaf Tóibín The South, (1990au) yn rhannol gan ei amser ym Marcelona, fel yr oedd, yn fwy uniongyrchol, ei waith ddi-ffuglen Homage to Barcelona (1990). Ar ôl dychwelyd i Iwerddon yn 1978, dechreuodd i astudio ar gyfer gradd meistr. Fodd bynnag, ni gyflwynodd ei thesis a gadawodd y byd academaidd, o leiaf yn rhannol, ar gyfer gyrfa mewn newyddiaduraeth.
Roedd y 1980au cynnar yn gyfnod enwedig o lachar i newyddiaduraeth Gwyddelig ac yn anterth i gylchgrawn newyddion misol Magill. Daeth Tóibín yn olygydd y cylchgrawn yn 1982, a bu yn y swydd tan 1985. Gadawodd o ganlyniad i anghydfod gyda Vincent Browne, cyfarwyddwr Magill's.
Gwaith
[golygu | golygu cod]Dilynnwyd The South gan The Heather Blazing (1992), Story of the Night (1996) a The Blackwater Lightship (1999). Mae ei bumed nofel, The Master (2004), yn gofnod ffuglennol o rannau ym mywyd awdur Henry James. Ef yw awdur llyfrau ffeithiol eraill: : Bad Blood:A Walk Along the Irish Border (1994), (ailargraffwyd o'r argraffiad gwreiddiol o 1987) ac The Sign of the Cross: Travels in Catholic Europe (1994).
Mae Tóibín wedi ysgrifennu dwy gyfrol stori fer. Mae ei gasgliad cyntaf, Mothers and Sons, sydd, fel mae'r enw yn awgrymu yn edrych ar y berthynas rhwng mamau a'u meibion, a gyhoeddwyd yn 2006, a gafodd adolygiad ffafriol (gan gynnwys gan Pico Iyer yn Y New York Times).Cyhoeddwyd ei ail,a oedd yn gasgliad ehangach, The Empty Family, yn 2010,[9] a gafodd ei roi ar y rhestr fer ar gyfer y (2011) Frank O'Connor International Short Story Award.[10]
Ysgrifennodd Tóibín ddrama, sy'n dwyn y teitl Beauty in a Broken Place, a gafodd ei chynnal yn Nulyn ym mis Awst 2004. Mae wedi parhau i weithio fel newyddiadurwr, yn Iwerddon a thramor, gan ysgrifennu ar gyfer y London Review of Books ymhlith cyhoeddiadau eraill. Mae hefyd wedi ennill enw da fel beirniad llenyddol: mae wedi golygu llyfr ar Paul Durcan, The Kilfenora Teaboy (1997), ac yn The Penguin Book of Irish Fiction (1999); ac mae wedi ysgrifennu The Modern Library: The 200 Best Novels in English since 1950 (1999), gyda Carmen Callil. Mae hefyd wedi ysgrifennu casgliad o ysgrifau, Love in a Dark Time: Gay Lives from Wilde to Almodóvar (2002), ac astudiaeth ar Lady Gregory, Lady Gregory's Toothbrush (2002).
Anfonnodd Tóibín ffotograff o Borges i Don DeLillo, sy'n ei ddisgrifio fel " wyneb Borges yn erbyn cefndir tywyll—Borges ffyrnig, dall, ei ffroenau'n agored, ei groen wedi ei ymestyn yn dynn, ei geg yn rhyfeddol o fywiog; ei geg yn edrych fel ei fod wedi ei beintio; ei fod fel siaman wedi ei beintio ar gyfer gweledigaethau, â'r mae i'r wyneb cyfan rhyw fath o berlewyg duraidd". Mae DeLillo yn aml yn ceisio cael ysbrydoliaeth oddi wrtho.[11]
Yn 2011, cyhoeddoedd The Times Literary Supplement ei gerdd "Cush Gap, 2007".[12] Daeth 2012 a chyhoeddiad The Testament of Mary. Yn 2014, bu iddo ryddhau ei nofel llawn-hyd cyntaf ers ei nofel Brooklyn (2009), portread o weddw ddiweddar, a mam i bedwar yn Wexford â'i thrafferth drwy'r cyfnod o alar, o'r enw Nora Webster.
Yn 2015, cyn y refferendwm ar Briodas Cydraddoldeb, bu i Tóibín gyflwyno sgwrs yn dwyn y teitl "Cofleidiad Cariad: Bod yn Hoyw yn Iwerddon Nawr" yn Trinity Hall, gan gynnwys dyddiaduron Roger Casement, o waith Oscar Wilde, John Broderick a Kate O'brien, a brwydrau Uchel Lys yr 1980au y Seneddwr David Norris.[13] Yn yr un flwyddyn, rhyddhäodd On Elizabeth Bishop, astudiaeth feirniadol a gyrrhaeddodd restr Llyfrau Gorau Y Guardian 2015 ddwywaith.[14]
Arddull
[golygu | golygu cod]Mae Tóibín wedi dweud y daw ei ysgrifennu allan o dawelwch. Nid oes well ganddo stori ac nid yw'n gweld ei hun fel storïwr. Mae wedi dweud, "Bod gorffen nofel bron fel rhoi plentyn i gysgu – ni ellir ei wneud yn sydyn."[15]
Mae Tóibín yn gweithio o dan yr amodau mwyaf eithafol, difrifol, a llym. Mae'n eistedd ar gadair galed, anghyfforddus sy'n achosi poen iddo. Pan yn gweithio ar ddrafft cyntaf mae'n gorchuddio ochr dde'r dudalen; ac yna nes ymlaen gwnai peth ail-ysgrifennu ar yr ochr chwith. Mae'n cadw prosesydd geiriau mewn ystafell arall ar gyfer trosglwyddo gwaith ysgrifenedig yn nes ymlaen.[16]
Themâu
[golygu | golygu cod]Mae gwaith Tóibín yn archwilio nifer o prif themâu: y darlun o gymdeithas Wyddelig, byw tramor, y broses o greadigrwydd, a diogelu hunaniaeth bersonol, yn canolbwyntio yn enwedig ar hunaniaeth gyfunrywiol, ond hefyd ar y hunaniaeth wrth wynebu profedigaeth. Mae nofelau "Swydd Wexford", The Heather Blazing a The Blackwater Lightship, i'll dau'n defnyddio Enniscorthy, tref genedigol Tóibín geni, fel deunydd naratif, ynghyd â hanes Iwerddon a marwolaeth ei dad. Gelid dod o hyd i adroddiad hunangofiannol a myfyrio ar y bennod hon, yn y llyfr ffeithiol, The Sign of the Cross. Yn 2009, cyhoeddodd Brooklyn, stori o wraig yn ymfudo i Brooklyn o Enniscorthy.
Mae dwy nofel arall, The Story of the Night ac The Master, yn troi o gwmpas cymeriadau sydd yn gorfod gwynebu hunaniaeth cyfunrywiol a sy'n cymryd lle y tu allan i Iwerddon, rhan fwyaf, gydag un cymeriad yn gorfod ymdopi â byw dramor. Mae ei nofel gyntaf, The South, yn ymddangos i gynnwys themâu o'r ddwy linell o waith. Gellir ei darllen ar y cyd â The Heather Blazing fel diptych o etifeddiaeth Protestannaidd a Chatholig Sir Wexford, neu gellir ei cyfuno gyda'r nofelau "byw dramor". Y trydydd pwnc sy'n dolennu The South a The Heather Blazing yw'r greadigaeth, o baentio yn yr achos cyntaf ac yng ngeiriad gofalus dyfarniad y barnwr yn yr ail. Y trydydd llinell thematig arweiniodd at The Master, sef astudiaeth ar hunaniaeth, ragflaenwyd gan lyfr di-ffuglen ar yr un pwnc, Love in a Dark Timea. Mae'r llyfr o storïau byrion "Mothers and Sons" yn delio gyda themâu teuluol, y naill yn Iwerddon a Chatalonia, a chyfunrywioldeb.
Mae Tóibín wedi ysgrifennu am rhyw hoyw mewn nifer o nofelau, er i Brooklyn gynnwys golygfa o ryw heterorywiol lle mae'r arwres yn colli ei morwyndod.[17] Yn ei gasgliad o draethawdau yn 2012 New Ways to Kill Your Mother: Writers and Families mae'n astudio bywgraffiadau James Baldwin, J. M. Synge a W. B. Yeats, ymhlith eraill.[18]
Mae ei nodiadau personol a llyfrau gwaith yn preswylio yn Llyfrgell Genedlaethol Iwerddon.[19]
Mae Tóibín yn aelod o Aosdána ac mae wedi bod yn athro gwadd ym Mhrifysgol Stanford, Prifysgol Texas yn Austin ac Mhrifysgol Princeton. Mae hefyd wedi darlithio mewn nifer o brifysgolion eraill, gan gynnwys Coleg Middlebury, Coleg Boston, Prifysgol Efrog Newydd, Prifysgol Loyola Maryland, ac yn Coleg y Groes Sanctaidd. Yn 2017, bu'n darlithio yn Athens, yn Georgia ym Mhrifysgol Georgia Cadeirydd ar gyfer Deall Byd-eang.[20] Roedd yn athro ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Manceinion, gan lwyddo Martin Amis yn y swydd honno, ac ar hyn o bryd mae'n dysgu ym Mhrifysgol Columbia.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Mae Tóibín yn agored hoyw.[21] Nid yw'n gywlio'r teledu, gan cyfaddef ei fod wedi profi dryswch rhwng y gwleidyddion Ed Miliband ac Ed Balls. Y mae wedi arddelu ar yr hyfrydwch seimllyd o 'fry-up' yn y bore.[22]
Bu dathliadau penblwydd Tóibín yn 50 oed yn Nulyn gynnwys ffracas rhwng y dramodydd Tom Murphy â'r impresario theatr Michael Colgan. Bu i Murphy daro pen Colgan hefo platiad o gyri.[23]
Gwobrau ac anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- 1993: Encore Award am ail nofel The Heather Blazing[24]
- 1999: Booker Prize rhestr fer am The Blackwater Lightship
- 2001: International IMPAC Dublin Literary Award rhestr fer am The Blackwater Lightship
- 2006: International IMPAC Dublin Literary Award amThe Master
- 2004 Booker Prize rhestr for am The Master
- 2004 Los Angeles Times Nofel y Flwyddyn The Master
- 2004 Stonewall Book Award am The Master
- 2004 Lambda Literary Award am The Master
- 2004 The New York Times un o lyfrau mwyaf nodedig y flwyddyn am The Master
- 2007: Etholwyd Cymrawd i'r Royal Society of Literature.[25]
- 2008: Gradd Anrhydeddus Doctor Llythrennau (DLitt), Prifysgol Ulster/University of Ulster mewn cydnabyddiaeth i'w gyfranniad tuag at Lenyddiaeth gyfoes Gwyddelig.
- 2009: Booker Prize rhestr-hir.[26]
- 2009: Costa Novel Award am Brooklyn[27]
- 2010 Gobrwywyd yn ystod y 38fed seremoni flynyddol yr AWB Vincent American Ireland Fund Literary Award.
- 2011:Rhestr-fer International IMPAC Dublin Literary Award t[28]
- 2011: Irish PEN Award tuag at gyfraniad i lenyddiaeth Gwyddelig.[29]
- 2011 Frank O'Connor International Short Story Award rhestr-fer am The Empty Family.[30][31][32]
- 2013: Rhestr-fer y Booker Prize am The Testament of Mary[33]
- 2014: Enwyd fel ymddiriedolwr i'r Griffin Trust For Excellence In Poetry, sydd yn gwobrwyo'r Griffin Poetry Prize
- 2015: Gwobr Hawthornden am Nora Webster[34]
- 2017: The Dayton Literary Peace Prize Richard C. Holbrooke Distinguished Achievement Award [35]
- 2017: Gwobr Adolygiad Kenyon am Gyflawniad Llenyddol.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Ffuglen
[golygu | golygu cod]- The South, Serpent's Tail, 1990
- The Heather Blazing, Picador, 1992, ISBN 978-0-330-32124-2
- The Story of the Night, Picador, 1996, ISBN 978-0-330-34017-5
- The Blackwater Lightship, McClelland and Stewart, 1999, ISBN 978-0-7710-8561-1
- The Master, Picador, 2004, ISBN 978-0-330-48565-4
- Mothers and Sons, Picador, 2006, ISBN 978-0-330-44182-7
- Brooklyn, Dublin: Tuskar Rock Press, 2009, ISBN 978-3-446-23566-3
- The Empty Family, Penguin/Viking, 2010, ISBN 978-0-670-91817-1
- The Testament of Mary, Viking, 2012, ISBN 978-1451688382
- Nora Webster, Scribner, 2014, ISBN 978-1439138335
- House of Names, Scribner, 2017, ISBN 978-1501140211
Di-Ffuglen
[golygu | golygu cod]- Tóibín, Colm; O'Shea, Tony (1987). Walking along the border. Macdonald.
- Martyrs and metaphors, Letters from the New Island, vol. 1, no. 2., Raven Arts, 1987, ISBN 978-1-85186-036-4
- The trial of the generals : selected journalism, 1980–1990, Raven Arts Press, 1990, ISBN 978-1-85186-081-4
- Homage to Barcelona, Simon & Schuster, 1990, ISBN 978-0-671-71061-3
- Dubliners, O'Shea, Tony (illus.), London: Macdonald, 1990, ISBN 0-356-17641-X
- Bad Blood: A Walk Along the Irish Border, Picador, 1994, ISBN 978-0-330-52097-3
- The Sign of the Cross: Travels in Catholic Europe, Jonathan Cape, 1994, ISBN 978-0-224-03767-9
- Tóibín, Colm, ed. (1995), The Guinness Book of Ireland, Guinness World Records, ISBN 978-0-85112-597-8
- Tóibín, Colm, ed. (1996), The Kilfenora Teaboy: A Study of Paul Durcan, New Island Books, ISBN 978-1-874597-31-5
- Tóibín, Colm; Callil, Carmel (1999), The Modern Library: The Two Hundred Best Novels in English Since 1950, Picador, ISBN 978-0-330-34182-0
- Tóibín, Colm, ed. (1999), The Penguin Book of Irish Fiction, Penguin/Viking, ISBN 978-0-670-85497-4
- Love in a Dark Time: Gay Lives From Wilde to Almodovar, Picador, 2002, ISBN 978-0-330-49137-2 (First English edition; Australian edition published 2001)
- The Irish Famine. A Documentary. With Diarmaid Ferriter, Profile Books Limited, 2001. ISBN 97818619724919781861972491
- Lady Gregory's Toothbrush, University of Wisconsin Press, 2002, ISBN 978-0-299-18000-3
- Schneider, Gregor; O'Hagan, Andrew; Tóibín, Colm (2004), Die Familie Schneider, Artangel, ISBN 978-3-86521-236-8
- The Use of Reason, Picador, 2006, ISBN 978-0-330-44573-3[36]
- Sean Scully: Walls of Aran, Thames & Hudson, 2007, ISBN 978-0-500-54339-9[37]
- A Guest at the Feast. A Memoir, Penguin, 2011, ISBN 978-0-241-96229-9[38]
- New Ways to Kill Your Mother: Writers and their Families, Penguin, 2012, ISBN 978-1-4516-6855-1
- On Elizabeth Bishop, Princeton University Press, 2015, ISBN 9780691154114
Ffilmograffi
[golygu | golygu cod]- 2017 : Return to Montauk (ysgrifennwr)
Darllen ychwanegol
[golygu | golygu cod]- Allen Randolph, Jody. "Colm Tóibín, December 2009." Close to the Next Moment. Manchester: Carcanet, 2010.
- Boland, Eavan. "Colm Tóibín." Irish Writers on Writing. San Antonio: Trinity University Press, 2007.
- Delaney, Paul. Reading Colm Tóibín. Dublin: Liffey Press, 2008, ISBN 978-1-905785-41-4978-1-905785-41-4
- Educational Media Solutions, 'Reading Ireland, Contemporary Irish Writers in the Context of Place', 2012, Films Media Group
- Costello-Sullivan, Kathleen. Mother/Country: Politics of the Personal in the Fiction of Colm Tóibín. Reimagining Ireland series. Ed. Eamon Maher. Bern: Peter Lang, 2012.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Kean, Danuta (2 Chwefror 2017). "Colm Tóibín appointed chancellor of Liverpool University". The Guardian. London: Guardian Media Group. Cyrchwyd 2 Chwefror 2017.
- ↑ Boland, Rosita (12 Chwefror 2011). "Tóibín on song as he pick up Irish Pen award". The Irish Times. Irish Times Trust. Cyrchwyd 12 Chwefror 2011.
- ↑ Naughton, John (8 Mai 2011). "Britain's top 300 intellectuals". The Observer. London: Guardian Media Group. Cyrchwyd 8 Mai 2011.
- ↑ Salter, Jessica (27 Chwefror 2012). "The World of Colm Tóibín". The Daily Telegraph. London. The Telegraph, 27 Chwefror 2012.
- ↑ Tóibín, Colm (17 Chwefror 2012). "Colm Tóibín: writers and their families". The Guardian. London: Guardian Media Group. Cyrchwyd 17 Chwefror 2012.
- ↑ "Colm Toibin: By the Book". The New York Times. New York. 1 Hydref 2015. Cyrchwyd 1 Hydref 2015.
- ↑ "Austen was a woeful speller . . ". Irish Independent. 30 Hydref 2010. Irish Independent. 30 Hydref 2010. 'Although not abused by priests in the Wexford school he attended, he positively fancied some of them. "Aged 15 or 16," he tells interviewer Susanna Rustin, "I found some of the priests sexually attractive, they had a way about them . . . a sexual allure which is a difficult thing to talk about because it's usually meant to be the opposite way round"'.
- ↑ "The best holiday reads: Colm Tóibín". The Guardian. London: Guardian Media Group. 17 Mehefin 2011. Cyrchwyd 17 Mehefin 2011.
- ↑ "The Empty Family Stories". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-11-01. Cyrchwyd 21 Mawrth 2011.
- ↑ Cullen, Conor. "Tóibín in line for major prize" Error in webarchive template: Check
|url=
value. Empty. . Enniscorthy Guardian. 12 Gorffennaf 2011. - ↑ Begley, Adam. "Don DeLillo, The Art of Fiction No. 135". Paris Review.
- ↑ "Toibin tries his hand at poetry . . ". Irish Independent. 18 Mehefin 2011. Irish Independent. Adalwyd 18 Mehefin 2011.
- ↑ Blake Knox, Kirsty (15 Mai 2015). "'Gay people have a right to ritualise and copper-fasten their love' - Tóibín". Irish Independent.
- ↑ "On Elizabeth Bishop Colm Tóibín". Princeton University Press. Cyrchwyd 28 Rhagfyr 2015.
- ↑ Barnett, Laura (19 Chwefror 2013). "Colm Tóibín, novelist – portrait of the artist". The Guardian. London: Guardian Media Group. Cyrchwyd 19 Chwefror 2013.
- ↑ Tóibín, Colm (13 Gorffennaf 2007). "Writers' rooms: Colm Tóibín". The Guardian. London: Guardian Media Group. Cyrchwyd 13 Gorffennaf 2007.
- ↑ Rustin, Susanna (16 Hydref 2010). "Let's not talk about sex – why passion is waning in British books". The Guardian. London: Guardian Media Group. Cyrchwyd 16 Hydref 2010.
- ↑ Hadley, Tessa (22 Chwefror 2012). "New Ways to Kill Your Mother by Colm Tóibín – review". The Guardian. London: Guardian Media Group. Cyrchwyd 27 Mawrth 2012.
- ↑ Telford, Lyndsey (21 Rhagfyr 2011). "Seamus Heaney declutters home and donates personal notes to National Library". Irish Independent. Independent News & Media. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Awst 2012. Cyrchwyd 21 Rhagfyr 2011. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help) - ↑ Butschek,H. (2017). Author of 'Brooklyn' coming for 3 days of events in Athens. Onlone Athens. http://onlineathens.com/features/2017-03-14/author-brooklyn-coming-3-days-events-athens
- ↑ Kaplan, James (6 Mehefin 2004). "A Subtle Play of Relations Reveals Henry James in Full". The Observer. Guardian Media Group. Cyrchwyd 16 Tachwedd 2015.
- ↑ "Colm Tóibín on the allure of the breakfast fry-up". 25 Mai 2015.
- ↑ Sheridan, Kathy (27 Medi 2014). "Colm Tóibín: I start and I finish". The Irish Times.
- ↑ "Colm is an author of formidable talent". Wexford People. 29 Mehefin 2011.
- ↑ "Royal Society of Literature All Fellows". Royal Society of Literature. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Mawrth 2010. Cyrchwyd 10 Awst 2010. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Brown, Mark (28 Gorffennaf 2009). "Heavyweights clash on Booker longlist". The Guardian. London: Guardian Media Group. Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2009.
- ↑ "Tóibín wins Costa Novel Award". RTÉ Arts. RTÉ. 4 Ionawr 2010. Cyrchwyd 4 Ionawr 2010.[dolen farw]
- ↑ "William Trevor makes an Impac". The Irish Times. Irish Times Trust. 12 Ebrill 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-23. Cyrchwyd 12 Ebrill 2011.
- ↑ Walsh, Caroline (4 Chwefror 2011). "Colm Tóibín wins Irish Pen award". The Irish Times. Irish Times Trust. Cyrchwyd 4 Chwefror 2011.
- ↑ Cullen, Conor (12 Gorffennaf 2011). "Tóibín in line for major prize". Enniscorthy Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Hydref 2011. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2011. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Walsh, Caroline (9 Gorffennaf 2011). "Two Irish authors make awards shortlist". The Irish Times. Irish Times Trust. Cyrchwyd 9 Gorffennaf 2011.
- ↑ Flood, Alison (9 Gorffennaf 2011). "Strong showing for Irish writers on Frank O'Connor shortlist". The Guardian. London: Guardian Media Group. Cyrchwyd 9 Gorffennaf 2011.
- ↑ . 7 Awst 2013 https://web.archive.org/web/20141130051454/http://www.themanbookerprize.com/man-booker-prize-2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Tachwedd 2014. Cyrchwyd 2 Rhagfyr 2014. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help); Missing or empty|title=
(help)Missing or empty|title=
(help) - ↑ . 23 Gorffennaf 2015 http://www.irishtimes.com/culture/books/colm-t%C3%B3ib%C3%ADn-wins-hawthornden-prize-for-nora-webster-1.2294019. Cyrchwyd 23 Gorffennaf 2015. Missing or empty
|title=
(help)Missing or empty|title=
(help) - ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-13. Cyrchwyd 2017-12-23.
- ↑ http://www.panmacmillan.com/Titles/displayPage.asp?PageTitle=Individual%20Title&BookID=386178[dolen farw]
- ↑ "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Ionawr 2015. Cyrchwyd 2014-12-03. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)CS1 maint: archived copy as title (link) - ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-04. Cyrchwyd 2017-12-23.
- Ryan, Ray. Ireland and Scotland : Literature and Culture, State and Nation, 1966-2000. Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2002.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol
- Nodyn:British council
- Colm Tóibín o'r The New York Review of Books (erthygl archif)
- Biographical profile o'r The Guardian
- Colm Tóibín o'r The Guardian (article archive)
- Alan Betson / THE IRISH TIMES photo of Tóibín receiving the 2011 Irish PEN Award
- BBC Radio 4 Desert Island Discs interview (first broadcast 7 Jan 2016)
- Genedigaethau 1955
- Beirdd Saesneg o Iwerddon
- Dramodwyr Saesneg o Iwerddon
- Llenorion yr 20fed ganrif o Iwerddon
- Llenorion yr 21ain ganrif o Iwerddon
- Llenorion straeon byrion Saesneg o Iwerddon
- Newyddiadurwyr o Iwerddon
- Nofelwyr Saesneg o Iwerddon
- Pobl o Swydd Wexford
- Ysgrifwyr a thraethodwyr Saesneg o Iwerddon