Crosiet
Mewn cerddoriaeth, crosiet yw nodyn a chwarëir am chwarter amser yr hannerbrif a hanner amser y minim. Mae'r nodyn hwn yn nodweddiadol o gerddoriaeth Arabaidd. Nodir gyda chylch du gyda choesyn di-faner. Mae'r coesyn yn wynebu i fynny os yw'n uwch na llinell ganol yr erwydd ac i lawr os is na llinell ganol yr erwydd. Mae pen y nodyn hefyd yn newid ei ogwydd mewn perthynas â'r coesyn. (Gweler y ddelwedd.)
Yn perthyn i'r nodyn mae saib y crosiet fel y dengys yn y ddelwedd uchod.
Yn Unicode, y symbol yw U+2669 (♩).
Yn yr ieithoedd Ewropeaidd mae gan y gair am y nodyn wahanol ystyron llythrennol gan eu bod yn tarddu o wahanol ffynonellau. (Gweler y tabl isod.)
Iaith | Enw'r nodyn | Enw'r saib |
---|---|---|
Iseldireg | Kwart noot | Kwart rust |
Ffrangeg | noire | soupir |
Almaeneg | Viertelnote | Viertelpause |
Groeg | Tetarto (τέταρτο) | Pafsi tetartou (παύση τετάρτου) |
Eidaleg | semiminima | pausa di semiminima |
Pwyleg | ćwierćnuta | pauza ćwierćnutowa |
Portiwgaleg | semínima | pausa de semínima |
Sbaeneg | negra | silencio de negra |
Swedeg | fjärdedelsnot | fjärdedelspaus |
Mae'r enwau Ffrangeg a Sbaeneg yn golygu "du". Mae'r enw Groeg yn golygu "chwarter".