Location via proxy:   [ UP ]  
[Report a bug]   [Manage cookies]                
Neidio i'r cynnwys

Nodyn dot

Oddi ar Wicipedia
Nodau dot a'u parhad cyfatebol.

Mewn cerddoriaeth, nodyn dot yw nodyn gyda dot bach wedi'i ysgrifennu ar ei ymyl. Mae'r dot yn ychwanegu hanner gwerth y nodyn gwreiddiol ymlaen. Os yw nodyn yn parhau am 2 guriad, bydd y nodyn dot cyfatebol yn para am 3 churiad. Mae nodyn dot yn hafal i ysgrifennu nodyn syml wedi'i glymu â nodyn hanner ei werth. Am bob dot a ychwanegir mae gwerth y dot yn hanneri.

Fformiwla

[golygu | golygu cod]

Er ni welir nodau gyda mwy na 3 dot yn aml iawn fe ellir darganfod gwerth unrhyw nodyn a gyda n nifer y dotiau: .

Mae'n amlwg bod dotio parhaol yn estyn hyd y nodyn gwreiddiol ond ni ddaw byth yn ddwy waith hyd y nodyn gwreiddiol.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.