157 CC
Gwedd
3g CC - 2g CC - 1g CC
200au CC 190au CC 180au CC 170au CC 160au CC - 150au CC - 140au CC 130au CC 120au CC 110au CC 100au CC
162 CC 161 CC 160 CC 159 CC 158 CC - 157 CC - 156 CC 155 CC 154 CC 153 CC 152 CC
Digwyddiadau
[golygu | golygu cod]- Massinissa, brenin Numidia, yn ymodod ar diriogaethau Carthago. Gan nad yw eu cytundeb a Gweriniaeth Rhufain yn canitau iddynt ymladd hen ganitad, mae Carthago'n gyrru llysgenhadaeth i Rufain. Gyrrir Cato yr Hynaf i drenu heddwch rhwng Carthago a Massinissa.
- Tra yn Carthago, mae Cato'n gweld i ba raddau y mae Carthago wedi adennill ei nerth, ac yn cael ei argyhoeddi ei bod yn berygl i Rufain. O hyn allan mae'n gorffen pob araith, ar unrhyw bnc, a'r geiriau "Ceterum censeo Carthaginem esse delendam" ("Ymhellach, rwy'n cynghori fod rhaid dinistrio Carthago").
- Ariarathes V, brenin Cappadocia, yn cael ei ddiorseddu gan frenin yr Ymerodraeth Seleucaidd, Demetrius I Soter, sy'n gorseddu Orophernes yn ei le. Mae Ariarathes yn apelio i Rufain, sy'n ei adfer i'w orsedd.
- Yr Ymerodraeth Seleucaidd yn cydnabod Jonathan Maccabeus fel is-frenin o fewn yr ymerodraeth,
Genedigaethau
[golygu | golygu cod]- Gaius Marius, cadfridog a gwleidydd Rhufeinig (bu farw 86 CC)
- Sanatruces, brenin Parthia
Marwolaethau
[golygu | golygu cod]- Wen, ymerawdwr Han, ymerawdwr Tsieina ers 180 CC (g. 202 CC)