188 CC
Gwedd
3g CC - 2g CC - 1g CC
230au CC 220au CC 210au CC 200au CC 190au CC - 180au CC - 170au CC 160au CC 150au CC 140au CC 130au CC
193 CC 192 CC 191 CC 190 CC 189 CC - 188 CC - 187 CC 186 CC 185 CC 184 CC 183 CC
Digwyddiadau
[golygu | golygu cod]- Philopoemen, cadfridog Cynghrair Achaea yn ymosod ar Laconia, yn dinistrio'r mur oedd wedi ei adeiladu o amgylch Sparta, ac yn diddymu cyfraith Sparta gan roi'r gyfraith Achaeaidd yn ei lle. Mae hyn yn rhoi diwedd ar rym Sparta.
- Cynghrair Apamea: mae Gweriniaeth Rhufain yn gorfodi brenin yr Ymerodraeth Seleucaidd, Antiochus III Mawr, i ildio ei diriogaethau yng Ngwlad Groeg ac Anatolia i'r gorllewin o Fynyddoedd Taurus. Rhaid iddo dalu 15,000 talent dros gyfnod o 12 mlynedd, ildio ei eliffantod rhyfel a'i lynges i Rufain, trosglwyddo Hannibal yn garcharor iddynt, a rhoi mab Antiochus, Demetrius, yn wystl.
- Mae Hannibal yn ffoi i Creta ac yna at Prusias I, brenin Bithynia.
- Cyngheiriad Rhufain, Eumenes II, brenin Pergamon, yn cael taleithiau Phrygia, Lydia, Lycia, Pisidia, a Pamphylia.
Genedigaethau
[golygu | golygu cod]- Jing, ymerawdwr Han, ymerawdwr Brenhinllin Han yn Tsieina
Marwolaethau
[golygu | golygu cod]- Hui, ymerawdwr Han, ail ymerawdwr Brenhinllin Han yn Tsieina