A4212
Gwedd
Math | ffordd dosbarth A |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.902°N 3.923°W |
Mae'r A4212 yn briffordd sy'n cysylltu Trawsfynydd, ar draffordd yr A470 a'r Bala ar draffordd yr A494.
O Drawsfynydd mae'n dringo Cwm Prysor gan ddilyn glannau Afon Prysor a phasio safle Castell Prysor i gyrraedd bwlch agored rhwng Arennig Fawr ac Arennig Fach. Oddi yno mae'n disgyn i'r dwyrain i lawr Cwm Tryweryn gan basio Llyn Tryweryn. Tua dwy filtir cyn Llyn Celyn ceir cyffordd â'r B4391 o Ffestiniog. Ar ôl rhedeg hyd lannau gogleddol Llyn Celyn mae'n disgyn y tair milltir olaf i lawr i'r Bala gan basio trwy bentref Frongoch.