Location via proxy:   [ UP ]  
[Report a bug]   [Manage cookies]                
Neidio i'r cynnwys

Adolfo de la Huerta

Oddi ar Wicipedia
Adolfo de la Huerta
Portread swyddogol yr Arlywydd Adolfo de la Huerta, mewn gwisg sifil gyda'r gwregys arlywyddol (Dinas Mecsico, 1920)
Ganwyd26 Mai 1881 Edit this on Wikidata
Guaymas Edit this on Wikidata
Bu farw9 Gorffennaf 1955 Edit this on Wikidata
Dinas Mecsico Edit this on Wikidata
DinasyddiaethMecsico Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Escuela Nacional Preparatoria Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, person milwrol Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd Mecsico, gweinidog Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolLiberal Constitutionalist Party Edit this on Wikidata

Gwleidydd o Fecsico oedd Adolfo de la Huerta (26 Mai 18819 Gorffennaf 1955) a fu'n arlywydd dros dro Mecsico trwy gydol y chwe mis o Fehefin i Dachwedd 1920.[1]

Ganed yn Hermosillo, Sonora, Mecsico. Gweithiodd mewn sawl swydd cyn iddo ddechrau ymgyrchu yn erbyn llywodraeth yr unben Porfirio Díaz ym 1908. Gwasanaethodd yn llywodraethwr Sonora o 1917 i 1920, ar ddiwedd Chwyldro Mecsico. Ymgynghreiriodd â gwleidyddion eraill o Sonora, Álvaro Obregón a Plutarco Elías Calles i ddymchwel yr Arlywydd Venustiano Carranza ym Mai 1920. Gwasanaethodd de la Huerta yn arlywydd dros dro Mecsico o 1 Mehefin i 30 Tachwedd 1920, gan ildio'r arlywyddiaeth i enillydd yr etholiad, Obregón, ar 1 Hydref.[2]

Gwasanaethodd de la Huerta yn weinidog ariannol yn llywodraeth Obregón o 1920 i 1923. Wedi i Obregón roi ei gefnogaeth i Calles yn etholiad arlywyddol 1924, trefnwyd gwrthryfel arfog yn erbyn y llywodraeth gan de la Huerta. Rhoddwyd pen ar y gwrthryfel ac aeth de la Huerta yn alltud yn Los Angeles. Gweithiodd yn athro canu er mwyn ennill arian. Dychwelodd i Fecsico ym 1935 wedi i'r Arlywydd Lázaro Cárdenas diddymu'r cyhuddiadau yn ei erbyn, a fe'i penodwyd yn brif arolygydd yr is-genhadon. Bu farw yn Ninas Mecsico yn 74 oed.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Camp, Roderic Ai (1996). "Adolfo de la Huerta" (yn en). Encyclopedia of Latin American History and Culture (Charles Scribner's Sons) 2: 357.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Adolfo de la Huerta. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 12 Chwefror 2021.