Afon Cuch
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 18 metr |
Cyfesurynnau | 52.03333°N 4.55°W |
Aber | Afon Teifi |
Mae Afon Cuch (llurguniad Saesneg: Cych) yn afon yn ne-orllewin Cymru sy'n ymuno ag afon Teifi tua 4 milltir i'r gorllewin o Gastell Newydd Emlyn. Mae hi'n dynodi'r ffin rhwng gogledd Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Ei hyd yw tua 8 milltir.
Cwrs
[golygu | golygu cod]Tardda afon Cuch yn y bryniau tua hanner ffordd rhwng Crymych (Sir Benfro) a Chynwyl Elfed (Sir Gâr). Mae dwy ffrwd, afon Sylgen ac afon Barddu, yn cyfuno yng Nghwmorgan i ffurfio afon Cuch. Rhed yr afon ar gwrs gogledd-orllewinol yn bennaf. Ar ôl hanner milltir daw ffrwd fechan afon Mamog i mewn o'r dwyrain, ger Capel Iwan. Mae'r afon yn llifo trwy gwm cul coediog rhwng y bryniau gan ffurfio Glyn Cuch (neu Cwm Cuch). Yn ystod ei chwrs trwy'r glyn mae sawl ffrwd arall megis afon Pedran ac afon Dulas, o'r gorllewin, yn ymuno ag afon Cuch. Daw allan o Lyn Cuch i Ddyffryn Teifi ger pentref bychan Abercych, lle ceir rhyd hynafol, ac ar ôl tua hanner milltir mae'n ymuno ag afon Teifi sy'n llifo i Fae Ceredigion ar ôl 6 milltir, ger Aberteifi.
Traddodiad a hanes
[golygu | golygu cod]Mae gan Lyn Cuch le arbennig ym mytholeg Cymru fel lleoliad hela Pwyll Pendefig Dyfed yn y gyntaf o Bedair Cainc y Mabinogi:
- Pwyll, Pendefig Dyfed, a oedd yn arglwydd ar saith cantref Dyfed. A threiglwaith ydd oedd yn Arberth, prif lys iddo, a dyfod yn ei fryd ac yn ei feddwl fyned i hela. Sef cyfair o'i gyfoeth (gwlad) a fynnai i hela, Glyn Cuch.
- (Pedair Cainc y Mabinogi, llinellau agoriadol 'Pwyll Pendefig Dyfed', mewn orgraff ddiweddar)[1]
Yna, wrth hela a'i gŵn yng Nglyn Cuch, mae Pwyll yn cyfarfod ag Arawn, brenin Annwn, ac mae cylch chwedlau'r Pedair Cainc yn dechrau.
Yn yr Oesoedd Canol, dynodai afon Cuch y ffin rhwng dau gwmwd cantref Emlyn, sef Emlyn Uwch Cuch ac Emlyn Is Cuch.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Ifor Williams (gol.), Pedair Cainc y Mabinogi (Caerdydd, 1930; sawl arg. diweddarach).