Afon Elái
Gwedd
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Cymru |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 69.22 ha |
Cyfesurynnau | 51.45°N 3.17°W, 51.49565°N 3.345789°W |
Aber | Môr Hafren |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Afon yn ne Cymru yw Elái (Saesneg: Ely). Mae hi'n tarddu gerllaw Tonypandy, ac yn llifo tua'r de-ddwyrain heibio i Donyrefail, Ynysmaerdy, a Llantrisant. Mae afon Clun yn ymuno â hi ger Pontyclun, yna mae hi'n parhau tua'r de-ddwyrain heibio i Feisgyn a thrwy ardaloedd mwy gwledig, cyn troi tua'r dwyrain ger Llanbedr-y-fro. O fan 'na mae'r afon yn llifo rhwng Sain Ffagan a Llanfihangel-ar-Elái ac wedyn ar ochr ogleddol Trelái, cyn troi tua'r de-ddwyrain eto i gyrraedd y môr ym Mae Caerdydd.
Mae'r afon ar adegau'n gorlifo a cheir llifogydd.
Cafwyd llifogydd yn yr ardal hon ym Medi 2008 pan gafodd 27 o dai eu llifogi a gorlifodd yr afon hefyd yn 2011, 2012 ac yn 2020.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Fideo gan Gyfoeth Naturiol Cymru; adalwyd 10 Medi 2010.