Alfonsina Storni
Alfonsina Storni | |
---|---|
Ganwyd | Alfonsina Storni 29 Mai 1892 Capriasca |
Bu farw | 25 Hydref 1938 o boddi Mar del Plata |
Dinasyddiaeth | yr Ariannin |
Galwedigaeth | dyddiadurwr, bardd, newyddiadurwr, llenor, athro, cymdeithasegydd |
Arddull | barddoniaeth |
Mudiad | Ôl-foderniaeth |
llofnod | |
Bardd, newyddiadurwraig a dramodydd yn yr iaith Sbaeneg o'r Ariannin oedd Alfonsina Storni (29 Mai 1892 – 25 Hydref 1938). Mae ei barddoniaeth yn nodedig am onestrwydd y safbwynt benywaidd sy'n amlygu ffaeleddau'r drefn batriarchaidd, a fe'i gelwir yn "fardd ffeministaidd gyntaf America Ladin".[1] Er iddi bortreadu a beirniadu'r rhyw wryw trwy gyfrwng eironi, nid oedd yn swil i fynegi ei chwantau rhamantaidd a rhywiol am ddynion yn ei cherddi erotig.[2]
Ganwyd yn Sala Capriasca, Ticino, yn y Swistir. Ymfudodd ei theulu i'r Ariannin yn 1896, a chafodd ei magu yng nghefn gwlad. Ymunodd â chwmni o actorion yn ystod ei hieuenctid. Cychwynnodd ar ei gyrfa yn athrawes yn Rosario, Talaith Santa Fe, yn 19 oed. Cafodd blentyn anghyfreithlon yn 1912, a bu'n rhaid iddi adael ei swydd. Aeth i Buenos Aires yn 1913, ac yno bu'n cwrdd â'r llenor Horacio Quiroga.
Cyhoeddodd Storni ei llyfr cyntaf, La inquietud del rosal, yn 1916, ac yn yr hwnnw clywir y llais angerddol a'r sentimentaliaeth sy'n nodweddiadol o'i cherddi cynnar. Denodd ragor o sylw gyda El dulce daño (1918) ac Irremediablemente (1919). Adlewyrchodd ddatblygiadau llenyddol y cyfnod, yn bennaf moderniaeth ond hefyd ôl-foderniaeth, a ddangosir yn y gyfrol Languidez (1920).[1]
Wedi iddi gyhoeddi'r gyfrol Ocre yn 1925, trodd ei sylw at newyddiaduraeth yn bennaf. Ysgrifennodd hefyd ambell ddrama, gan gynnwys y gomedi El amo del mundo (1927), er na chafodd fawr o lwyddiant yn y theatr.[2] Erbyn ei blynyddoedd olaf, datblygodd fynegiadaeth gymhleth yn ei cherddi. Ei dwy gyfrol olaf o farddoniaeth oedd El mundo de siete pozos (1934) a'r casgliad o wrth-sonedau Mascarilla y trébol (1938). Dylanwadwyd arni gan yr avant-garde, sy'n amlwg yn Mascarilla y trébol.[1]
Enillodd Storni sylw'r byd llenyddol a'r cyhoedd bron o'r cychwyn, er yr oedd ambell un yn feirniadol ohoni. Wfftiodd Jorge Luis Borges ei "llais main ac aneglur", er enghraifft.[1] Dioddefai o ganser y fron yn ei blynyddoedd olaf, a bu farw trwy hunanladdiad pan foddai ei hunan yn y môr ger Mar del Plata.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Maarten Steenmeijer, "Storni, Alfonsina", yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, gol. Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain: Routledge, 2004), t.550
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Alfonsina Storni. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Ebrill 2019.
- Beirdd yr 20fed ganrif o'r Ariannin
- Beirdd Sbaeneg o'r Ariannin
- Dramodwyr yr 20fed ganrif o'r Ariannin
- Dramodwyr Sbaeneg o'r Ariannin
- Genedigaethau 1892
- Llenorion benywaidd yr 20fed ganrif o'r Ariannin
- Marwolaethau 1938
- Newyddiadurwyr yr 20fed ganrif o'r Ariannin
- Pobl fu farw trwy foddi
- Pobl fu farw trwy hunanladdiad
- Ymfudwyr o'r Swistir i'r Ariannin