Location via proxy:   [ UP ]  
[Report a bug]   [Manage cookies]                
Neidio i'r cynnwys

Allteuryn

Oddi ar Wicipedia
Allteuryn
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth326 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCasnewydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.5431°N 2.9146°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000816 Edit this on Wikidata
Map

Pentref bychan a chymuned yn ninas Casnewydd, Cymru, yw Allteuryn,[1] weithiau Allt Euryn neu Gallt Euryn (Saesneg: Goldcliff).[2]

Saif i'r de-ddwyrain o'r ddinas ei hun ger aber Afon Hafren, ac ar lanw uchel mae llawer o'r tir yn is na lefel y môr. Bu morglawdd yma o gyfnod cynnar; yn 1878 cafwyd hyd i garreg yn cofnodi i lengfilwyr Rhufeinig weithio ar glawdd yma. Cipiwyd y tir oddi wrth Owain Wan gan Robert de Chandos, a sefydlodd Briordy Allteuryn yma ychydig cyn 1113.

Gerllaw mae Gwarchodfa Natur Gwlybtiroedd Casnewydd, a agorwyd ym mis Mawrth 2000.

Yng Nghyfrifiad 2021 roedd gan y gymuned boblogaeth o 326.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru", Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 17 Gorffennaf 2023
  2. British Place Names; adalwyd 17 Gorffennaf 2023
  3. City Population; adalwyd 13 Gorffennaf 2023
Eginyn erthygl sydd uchod am Gasnewydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato