Alun Guy
Alun Guy | |
---|---|
Ganwyd | 1939 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, cerddor |
Gwobr/au | Medal yr Ymerodraeth Brydeinig |
Cerddor, athro ac awdur Cymreig yw Alun Guy (ganwyd 1939). Mae'n nodedig am gyhoeddi 15 o wahanol gyfrolau megis Cantorion o Fri: Ar Lwyfan Cymru a gyhoeddwyd 1 Awst 2004 gan Wasg Gomer ynghyd a nifer o werslyfrau ar gyfer disgyblion TGAU a Safon A Cerddoriaeth. [1] Mae e'n cerddor hefyd, sy'n gweithio fel Beirniad Cerdd Cenedlaethol, arweinydd Cymanfaoedd Rhyngwladol, corau a cherddorfeydd.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd a magwyd Guy yng Nghaerdydd. Mae'n un o dri o blant i Mr D T Guy (Penclawdd) a Mrs Annie Hughes Guy (Waunarlwydd).
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Graddiodd Guy o Goleg Prifysgol Caerdydd. Rhwng 1978 a 1998 bu'n Bennaeth Cerdd Ysgol Glantaf yng Nghaerdydd. Mae nawr yn Ymgynghorydd Cerdd ar gyfer ysgolion yn ogystal â Phrif Arholwr Cerdd TGAU yng Nghymru.[2]
Derbyniodd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2020, am ei wasanaeth i'r meysydd cerdd, iaith a diwylliant.[3]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Cantorion o Fri: Ar Lwyfan Cymru (Gwasg Gomer, 2004)
- Cantorion o Fri: Ar Lwyfan y Byd (Gwasg Gomer, 2005)
- Pan Ddaw Yfory (Curiad, 1996)
- Llawlyfr y Myfyrwyr ar Gyfer Manyldeb CBAC (Rhinegold Publishing, 2005)
- Profion Gwrando (Rhinegold Publishing, 2009)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 8 Chwefror 2015
- ↑ Mae Alun Guy yn gwneud y trydydd, gan gwblhau panel eleni… (12 Hydref 2012). Adalwyd ar 18 Mai 2016.
- ↑ Anrhydeddau'r Frenhines am ymdrechion i atal Covid , BBC Cymru Fyw, 10 Hydref 2020.