Amcangyfrif
Amcangyfrif yw'r broses o ddod o hyd i frasamcan, sy'n werth mathemategol y gellir ei ddefnyddio at ryw ddiben hyd yn oed os yw data'r mewnbwn yn anghyflawn, yn ansicr, neu'n ansefydlog. Er hynny, gellir defnyddio'r gwerth oherwydd ei fod yn deillio o'r wybodaeth orau sydd ar gael. Yn nodweddiadol, mae amcangyfrif yn golygu "defnyddio gwerth ystadegyn sy'n deillio o sampl i amcangyfrif poblogaeth gyfatebol", er enghraifft. Mae'r sampl yn darparu gwybodaeth y gellir ei luosi trwy wahanol brosesau i bennu'r nifer, neu'r gwerth sydd ar goll. Gelwir amcangyfrif sy'n rhy uchel yn "oramcangyfrif", ac amcangyfrif sy'n is na'r swm cywir yn "danamcangyfrif".[1][2]
Defnyddir 'amcangyfrif' yn aml wrth greu pôl piniwn, er enghraifft i wybod sut y byddai pobl yn bwrw eu pleidlais mewn etholiad. Ar lafar, yn gyffredinol, defnyddir y term 'gés' (o guess), 'bwrw amcan' neu 'ddyfalu'.
Ceir cofnod o'r gair 'amcangyfrif', am y tro cyntaf, yng Ngeiriadur Thomas Jones (Dinbych), yn 1800.[3] Ystyr y gair 'amcan' yw 'bwriad', 'pwrpas' neu 'gynllun'.[4]
Enghreifftiau
[golygu | golygu cod]- Enghraifft un cam
Amcangyfrif "o dop y pen" fyddai rhif tebyg i 120. Does fawr o fathemateg yma, yn hytrach dibynnir ar synnwyr cyffredin a phrofiad.
- Enghraifft dau gam
Er mwyn gwella'r amcangyfrif, gallwn wneud dau amcangyfrif i gael yr 'ateb': gellid yn gyntaf amcangyfrif sawl fferen sydd mewn haen gyda'i drwch (neu uchder) yn un centimetr. Yna, gellid amcangyfrif uchder y jar, mewn centimetrau, a'i luosi gyda'r amcangyfrif cyntaf a wnaed (sawl fferen sydd mewn haen gyda'i drwch yn un centimetr). Disgwylid amcangyfrif gwell, yma, na'r amcangyfrif un-cam.
- Enghraifft sawl cam
Er enghraifft, i amcangyfri sawl gronyn o dywod sydd ar draeth, gellid amcangyfrif sawl gronyn sydd mewn un centimetr sgwâr, yn gyntaf. Yna lluosi'r swm gyda chant i gael amcangyfrif o sawl gronyn sydd mewn un fetr sgâr. Y trydydd cam fyddai amcangyfrif sawl metr sgwâr yw'r traeth h.y. ei arwynebedd. Y cam olaf fydai lluosi'r arwynebedd hwn gyda'r nifer o ronynau mewn un fetr.
Termau
[golygu | golygu cod]- amcangyfrif â thuedd - biased estimate
- amcangyfrif cyfeiliornad - estimation of error
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Raymond A. Kent, "Estimation", Data Construction and Data Analysis for Survey Research (2001), tud. 157.
- ↑ James Tate, John Schoonbeck, Reviewing Mathematics (2003), page 27: "An overestimate is an estimate you know is greater than the exact answer".
- ↑ amcangyfrif. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.
- ↑ amcan. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.