Andrew Jones Brereton (Andreas o Fôn)
Andrew Jones Brereton | |
---|---|
Ffugenw | Andreas o Fôn |
Ganwyd | 1827 Ynys Môn |
Bu farw | 1885 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Bardd a llenor Cymraeg oedd Andrew Jones Brereton (1827 - 1885), a adnabyddid hefyd wrth ei enw barddol Andreas o Fôn. Roedd yn frodor o Sir Fôn.[1]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed Andrew Jones ym mhlwyf Llanfechell, Sir Fôn, yn 1827, yn fab Andrew Brereton, ysgolfeistr cyntaf y plwyf. Cafodd ei addysg yn Llanfechell a chychwynnodd ei yrfa fel clerc yn Lerpwl. Yn fuan wedyn cafodd swydd clerc yn yr Wyddgrug lle arosodd hyd ei farwolaeth yn 1885. Cafodd ei gladdu yn yr Wyddgrug.[1]
Llenor
[golygu | golygu cod]Ysgrifennodd lawer o gerddi a rhyddiaith i gylchgronau Cymraeg y cyfnod. Golygodd Gyfansoddiadau Eisteddfod yr Wyddgrug 1851. Bu'n weithgar mewn sawl mudiad cenedlaethol yng Nghymru. Yn 1875, casglwyd y swm o £320 (swm pur sylweddol yn y cyfnod hwnnw) fel tysteb o werthfawrogiad iddo am ei wasanaeth i lenyddiaeth ei wlad, ond cyflwynodd Andreas y rhodd i sefydlu ysgoloriaeth yn ei enw yng Ngholeg Aberystwyth, Prifysgol Cymru.[1]