Annie Ross
Gwedd
Annie Ross | |
---|---|
Ganwyd | Annabelle Allan Short 25 Gorffennaf 1930 Surrey, Llundain |
Bu farw | 21 Gorffennaf 2020 o emffysema ysgyfeiniol, clefyd y galon Dinas Efrog Newydd |
Label recordio | RCA Victor |
Dinasyddiaeth | UDA |
Galwedigaeth | canwr, cerddor jazz, perchennog clwb nos, actor ffilm, actor llais, actor |
Arddull | jazz, bebop, jazz lleisiol |
Gwobr/au | NEA Jazz Masters |
Roedd Annabelle Allan Short[1] (25 Gorffennaf 1930 – 21 Gorffennaf 2020), neu Annie Ross, yn gantores Albanaidd-Americanaidd.
Fe'i ganed yn Mitcham, Llundain, yn ferch i'r digrifwyr Albanaidd John "Jack" Short a Mary Dalziel Short (née Allan). Roedd hi'n chwaer i Jimmy Logan, canwr a chomediwr. Fel plant, aethant i fyw i America[2] Ar ôl ennill cystadleuaeth dalent, aeth i fyw gyda'i modryb, y cantores Ella Logan, yn Los Angeles. Aeth ei rhieni yn ôl i'r Alban.
Bu farw Ross yn Ninas Efrog Newydd o glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint a clefyd cardiofasgwlar.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Annie Ross on piano jazz". NPR. 17 Rhagfyr 2010. Cyrchwyd 9 Gorffennaf 2015.
- ↑ Don Ball, gol. (22 Medi 2009). "Interview by Molly Murphy for the National Endowment for the Arts". National Endowment for the Arts. Cyrchwyd 23 Gorffennaf 2020.
- ↑ Tarby, Russ (21 Gorffennaf 2020). "'Twisted' lyricist, vocalese pioneer Annie Ross has Died". The Syncopated Times. Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2020.