Ararteko
Enghraifft o'r canlynol | ombwdsmon, swydd gyhoeddus |
---|---|
Rhan o | Senedd Euskadi |
Dechrau/Sefydlu | 1985 |
Pencadlys | Vitoria-Gasteiz |
Gwefan | http://www.ararteko.net |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ararteko yw'r teitl ar gyfer Ombwdsmon Euskadi sy'n Uchel Gomisiynydd Hawliau Dynol Senedd Gwlad y Basg. Sefydlwyd y swydd gan Senedd Euskadi (senedd ymreolaethol sy'n cynnwys 3 o daleithiau y Basgiaid - Gipuzkoa, Biskaia, a Gazteis) yn 1985, mae'n gorff ymreolaethol sy'n gweithio'n annibynnol ar unrhyw bwerau gwleidyddol. Rhaid i Ararteko fod yn ddiduedd ac annibynnol a’i brif swyddogaeth yw diogelu dinasyddion rhag camddefnydd o awdurdod, pŵer a chamau esgeulus Gweinyddiaethau Cyhoeddus Gwlad y Basg. Rydym hefyd yn anelu at gynyddu ymwybyddiaeth a sensitifrwydd am Ddiwylliant Hawliau Dynol.[1] Arddelir y teitl Ombudsan of the Basque Country fel teitl Saesneg ar wefan y sefydliad.
Yn Nafara (cymuned ymreolaeth Basgeg arall sy'n rhan o Wlad y Basg ond nad sydd wedi ei huno gydag Euskadi, gelwir Ombwdsmon y gymuned ranbarthol hefyd yn Ararteko yn Fasgeg a Defensor del Pueblo de Navarra yn Sbaenaeg.[2]
Mae'n aelod o Gymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith er bod remit yr Ararteko yn fwy nad dim ond yr iaith Fasgeg.
Fe etholir y Prif Weithredwr i'r swydd bob 5 mlynedd gan bleidlais o aelodau Senedd Euskadi. Mae gwasanaethau'r corff am ddim.[3]
Sefydlu
[golygu | golygu cod]Crëwyd a rheoleiddiwyd sefydliad Ararteko gan Gyfraith Ararteko 3/1985, 27 Chwefror,[4] Senedd Gwlad y Basg, yn unol â darpariaethau Stadud Ymreolaeth Gwlad y Basg 1979 yn ei erthygl 15.
Grymoedd
[golygu | golygu cod]Mae pwerau'r Ararteko yn cynnwys:[1]
- Agor ac ymarfer ymchwiliadau i egluro trafodion Gweinyddiaeth Gyhoeddus Gwlad y Basg.
- Gwneud argymhellion penodol, atgoffa dyletswyddau cyfreithiol a chywiro gweithredoedd anghyfreithlon neu annheg i gyflawni gwelliant yng ngwasanaethau Gweinyddiaeth Gyhoeddus Gwlad y Basg.
- Tynnu sylw at ddiffygion y Gyfraith a gwella gwrthrychedd ac effeithiolrwydd y Gwasanaeth Cyhoeddus trwy warantu hawliau dinasyddiaeth.
- Cynhyrchu adroddiadau craff o fewn ffrâm ei gymwyseddau neu ar gais Senedd Gwlad y Basg neu Weinyddiaethau Cyhoeddus Gwlad y Basg.
- Lledaenu natur ei waith, ei hymchwil a'i adroddiad blynyddol ym mhob ffordd.
Er mwyn cyflawni ei genhadaeth, gall yr Ararteko, ymhlith eraill:
Cynnal ymweliadau arolygu â chanolfannau a chyfleusterau sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus i ddinasyddion a gofyn am wrandawiad gydag unrhyw was sifil neu gyflogai cyhoeddus i gymryd rhan mewn ymchwil, cynnal yr holl ymchwil y mae'n ei ystyried yn gyfleus neu ddod o hyd i'r atebion cywir i amddiffyn buddiannau cyfreithlon y dinesydd.
Mae Ararteko yn aml mewn cysylltiad â gwahanol randdeiliaid, cymdeithasau a sefydliadau cymunedol ac yn cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau a fforymau lleol a rhyngwladol i wella polisi a gweithredu cyhoeddus gweinyddiaeth Fasgeg, gwella ansawdd y gwasanaeth cyhoeddus a ddarperir, yr hawliau a sicrhawyd, a brwydro yn erbyn yr anghydraddoldeb a gwahaniaethu.
Mae cenhadaeth Ararteko hefyd yn cynnwys amddiffyn hawliau iaith sy'n deillio o statws cyd-swyddogol yr ieithoedd Basgeg a Sbaeneg.
Meysydd gwaith
[golygu | golygu cod]Mae meysydd gwaith yr Ararteko yn eang iawn a nid dim ond wedi eu cyfyngu i un arbenigedd fel Comisiynydd y Gymraeg neu Comisiynydd Plant Cymru a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru. Y meysydd gweithredu yw:[5]
|
|
Arartekos
[golygu | golygu cod]- 1989-1995: Juan San Martín Ortiz de Zárate
- 1995-2000: Xabier Markiegi Candina[6]
- 2000-2004: Mercedes Agúndez Basterra (acting)[7]
- 2004-2014: Íñigo Lamarca Iturbe
- 2015: Julia Hernández Valles (gweithredol)[8]
- 2015 hyd presenol: Manuel Lezertua Rodríguez[9]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Ombudsman of the Basque Country". gwefan Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith. Cyrchwyd 13 Mehefin 2024.
- ↑ Defensor del Pueblo de Navarra - Arartekoa
- ↑ "What is the Ararteko (fideo yn Saesneg)". Gwefan Ararteko. Cyrchwyd 13 Mehefin 2024.[dolen farw]
- ↑ Ley del Ararteko 3/1985, 27 Chwefror.
- ↑ "Work Areas by Subject Matter". gwefan Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith. Cyrchwyd 13 Mehefin 2024.
- ↑ Xabier Markiegi Candina[dolen farw]
- ↑ "Mercedes Agúndez Basterra ejerció como Ararteko en funciones durante el periodo comprendido entre los años 2000 y 2004". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Mehefin 2012. Cyrchwyd 6 Gorffennaf 2010. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Julia Hernández Valles es, desde hoy, Ararteko en funciones Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback. 16 Ebrill 2015.
- ↑ Manuel Lezertua Rodríguez toma posesión del cargo como Ararteko Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback. 15 Mehefin 2015.