Location via proxy:   [ UP ]  
[Report a bug]   [Manage cookies]                
Neidio i'r cynnwys

Arfon (etholaeth Senedd Cymru)

Oddi ar Wicipedia
Mae hon yn erthygl am yr etholaeth newydd. Am y cantref ac ardal hanesyddol, gweler Arfon.
Arfon
Etholaeth Senedd Cymru
Lleoliad Arfon o fewn Gogledd Cymru a Chymru
Math: Senedd Cymru
Rhanbarth Gogledd Cymru
Creu: 2007
AS presennol: Siân Gwenllian (Plaid Cymru)
AS (DU) presennol: Hywel Williams (Plaid Cymru)


Etholaeth Senedd Cymru ydy Arfon sy'n dwyn enw ardal hanesyddol Arfon. Mae'n ethol un aelod drwy ddull cyntaf heibio'r postyn. Mae hefyd yn rhan o Ranbarth Gogledd Cymru, sydd yn ethol pedwar aelod ychwanegol er mwyn cael cynrichiolaeth mwy cyfrannol ar gyfer y rhanbarth. Cafod yr etholaeth ei chreu ar gyfer etholiad 2007. Yr aelod dros yr etholaeth yn y Senedd yw Siân Gwenllian (Plaid Cymru).

Ffiniau

[golygu | golygu cod]

Mae gan yr etholaeth Senedd Cymru Arfon yr un ffiniau ac etholaeth seneddol o'r un enw, sydd wedi cael ei ddefnyddio ers etholiad cyffredinol 2010. Cafodd etholaeth Arfon ei chreu drwy gyfunno ardaloedd Caernarfon a Gwyfrai o'r hen etholaeth Caernarfon, ac ardaloedd Bangor a Dyffryn Ogwen o hen etholaeth Conwy.

Creuwyd rhanbarth Gogledd Cymru yn ystod yr etholiad cynulliad cyntaf yn 1999, ac ers 2007 mae hi wedi cynnwys etholaethau Aberconwy, Alun a Glannau Dyfrwy, Arfon, De Clwyd, Dyffryn Clwyd, Gorllewin Clwyd, Delyn, Wrecsam ac Ynys Môn.

Er fod yr etholaeth seneddol yn llawer mwy ymylol, gellir ystyried yr etholaeth Senedd yn sedd saff, i Blaid Cymru. Yn yr etholiad diwethaf, 2016, roedd gan Blaid Cymru mwyafrif o 20.8% dros y Blaid Lafur.

Cyfartaledd canlyniadau 5 etholiad: Plaid Cymru - 54.6%, Llafur - 29%, Ceidwadwyr - 10.1%, Dem Rhydd - 4.9%

Pleidleisio

[golygu | golygu cod]

Mewn etholiadau Senedd, mae gan bob pleidleisiwr ddwy bleidlais: un ar gyfer ymgeisydd i fod yn Aelod o'r Senedd dros yr etholaeth, a'r llall ar gyfer rhestr pleidiol o ymgeiswyr rhanbarthol. Defnyddir Dull d'Hondt ar gyfer dyrannu seddi rhanbarthol, gan ystyried canlyniadau'r etholaethau yn y rhanbarth.

Aelodau o'r Cynulliad

[golygu | golygu cod]
Etholiad Aelod Plaid Llun
2007 Alun Ffred Jones Plaid Cymru
2016 Siân Gwenllian Plaid Cymru

Ym Mai 2020 newidiwyd yr enw i 'Senedd Cymru'.

Aelodau o'r Senedd

[golygu | golygu cod]
Etholiad Aelod Plaid Llun
2021 Siân Gwenllian Plaid Cymru

Etholiadau

[golygu | golygu cod]

Canlyniadau Etholiadau

[golygu | golygu cod]
Etholiad Senedd 2021: Arfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Plaid Cymru Sian Gwenllian 13,760 63.27 +8.44
Llafur Iwan Wyn Jones 5,108 23.49 -10.52
Ceidwadwyr Tony Thomas 1,806 9.30 +0.03
Democratiaid Rhyddfrydol Callum Davies 642 2.95 +0.07
Reform UK Andrew Haigh 350 1.61 -
Annibynnol Martin Bristow 82 0.38 -
Mwyafrif 8,652 39.78 +8.44
Y nifer a bleidleisiodd 21,748 50.92 0.00
Plaid Cymru yn cadw Gogwydd +9.48
Etholiad Cynulliad 2016: Arfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Plaid Cymru Siân Gwenllian 10,962 54.8 -1.9
Llafur Siôn Jones 6,800 34.0 +7.8
Ceidwadwyr Martin Peet 1,655 8.3 -4.2
Democratiaid Rhyddfrydol Sara Lloyd Williams 577 2.9 -1.6
Mwyafrif 4,162 20.8 -9.7
Y nifer a bleidleisiodd 19,994 50.9 +7.5
Plaid Cymru yn cadw Gogwydd −4.9


Etholiad 2011: Arfon[1]
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Plaid Cymru Alun Ffred Jones 10,024 56.7 +4.3
Llafur Christina Elizabeth Rees 4,630 26.2 −0.6
Ceidwadwyr Aled Davies 2,209 12.5 +3.0
Democratiaid Rhyddfrydol Rhys David Jones 801 4.5 −2.8
Mwyafrif 5,394 30.5 +4.9
Y nifer a bleidleisiodd 17,664 43.4 −5.7
Plaid Cymru yn cadw Gogwydd +2.4


Etholiad 2007: Arfon
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Plaid Cymru Alun Ffred Jones 10,260 52.4 +3.11
Llafur Martin Eaglestone 5,242 26.8 -3.81
Ceidwadwyr Gerry Frobisher 1,858 9.5 -3.51
Democratiaid Rhyddfrydol Mel ab Owain 1,424 7.5 +0.21
Plaid Annibyniaeth y DU Elwyn Williams 789 4.0 +4.01
Mwyafrif 5,018 25.6 +6.91
Y nifer a bleidleisiodd 19,573 49.1 +4.11
Etholaeth newydd: Plaid Cymru yn ennill. Gogwydd +3.51

1Amcanol yn Unig

Gweler Hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Wales elections > Arfon". BBC News. 6 Mai 2011. Cyrchwyd 8 Mawrth 2011.
Etholaethau Senedd Cymru
Llafur

Aberafan | Alun a Glannau Dyfrdwy | Blaenau Gwent | Bro Morgannwg | Caerffili | Canol Caerdydd | Castell-nedd | Cwm Cynon | Delyn | De Caerdydd a Phenarth | De Clwyd | Dwyrain Abertawe | Dwyrain Casnewydd | Gogledd Caerdydd | Gorllewin Abertawe | Gorllewin Caerdydd | Gorllewin Casnewydd | Gŵyr | Islwyn | Llanelli | Merthyr Tudful a Rhymni | Ogwr | Pen-y-bont ar Ogwr | Pontypridd | Rhondda | Torfaen | Wrecsam

Ceidwadwyr

Aberconwy | Brychieniog a Sir Faesyfed | Dyffryn Clwyd | Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro | Gorllewin Clwyd | Maldwyn | Mynwy | Preseli Penfro

Plaid Cymru

Arfon | Ceredigion | Dwyfor Meirionnydd | Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr | Ynys Môn

Rhanbarthau etholiadol Senedd Cymru

Rhanbarth Gogledd Cymru: Ceidwadwyr (2) | Plaid Cymru (1) | Llafur (1)
Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru: Llafur (2) | Plaid Cymru (1) | Y Democratiaid Rhyddfrydol (1)
Rhanbarth Gorllewin De Cymru: Ceidwadwyr (2) | Plaid Cymru (2)
Rhanbarth Canol De Cymru: Ceidwadwyr (2) | Plaid Cymru (2)
Rhanbarth Dwyrain De Cymru: Ceidwadwyr (2) | Plaid Cymru (2)

Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.