Béja
Gwedd
Math | municipality of Tunisia, Imada |
---|---|
Poblogaeth | 109,299 |
Gefeilldref/i | Gibellina, Beja |
Daearyddiaeth | |
Sir | Béja, delegation of Béja Nord |
Gwlad | Tiwnisia |
Arwynebedd | 13.05 km² |
Uwch y môr | 222 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 36.7256°N 9.1817°E |
Cod post | 9000 |
Mae Béja (Arabeg: باجة) yn ddinas yng ngogledd-orllewin Tiwnisia ac yn brifddinas y dalaith o'r un enw. Fe'i lleolir 105 km i'r gorllewin o Diwnis, gyda phoblogaeth o 56,677.
Gorwedd Béja yng nghanol un o'r rhanbarthau gwyrddaf a mwyaf ffrwythlon yn y wlad, wrth droed mynyddoedd y Khroumirie ac mewn cwm agored sy'n ymestyniad o ddyffryn mawr afon Medjerda. Mae ei thirwedd yn gymsgfa o ardaloedd coediog a bryniau canolog sy'n codi o wastadiroedd a chymoedd is sy'n cael eu hamaethu ar raddfa helaeth.
Mae'r ddinas ei hun yn eithaf modern. Mae'r rheilffordd yn ei chysylltu â Thiwnis i'r dwyrain a Jendouba ger y ffin ag Algeria i'r gorllewin.