Bae Napoli
Gwedd
Math | bae |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Môr Tirrenia |
Gwlad | Yr Eidal |
Arwynebedd | 870 km² |
Cyfesurynnau | 40.7353°N 14.2753°E |
Bae tua 9 milltir (15 km) o led ar arfordir de-orllewin yr Eidal yw Bae Napoli neu Gwlff Napoli (Eidaleg: Golfo di Napoli). Fe'i lleolir yn rhanbarth Campania rhwng Gwlff Gaeta i'r gogledd a Gwlff Salerno (sy'n cynnwys Arfordir Amalfi) i'r de. I'r gorllewin mae'n agor ar Fôr Tirrenia, rhan o Fôr Canoldir. Mae dinas Napoli yn edrych drosti o'r gogledd. Saif Mynydd Vesuvius i'r dwyrain, a Penrhyn Sorrento i'r de.
Lleolir ynysoedd Capri, Ischia a Procida ym Mae Napoli.[1] Mae'r ardal yn gyrchfan i dwristiaid. Mae'r atyniadau'n cynnwyd adfeilion Rhufeinig Pompeii a Herculaneum wrth droed Mynydd Vesuvius, ar hyd arfordir y gogledd.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gulf of Naples islands Archifwyd 13 Gorffennaf 2011 yn y Peiriant Wayback (PDF).
- ↑ De Carolis, Ernesto; Patricelli, Giovanni (2003). Vesuvius, A.D. 79: the destruction of Pompeii and Herculaneum (yn Saesneg). L'erma Di Bretschneider. ISBN 978-88-8265-199-2.