Location via proxy:   [ UP ]  
[Report a bug]   [Manage cookies]                
Neidio i'r cynnwys

Balcaneiddio

Oddi ar Wicipedia
Chawlu Iwgoslafia

Term daearwleidyddol yw Balcaneiddio sy'n disgrifio'r broses o ymraniad rhanbarth yn rhanbarthau llai sydd gan amlaf yn elyniaethus neu'n anghydweithredol gyda'i gilydd. Ymddangosodd y term yn sgil y gwrthdaro yn y Balcanau (Iwgoslafia) yn yr ugeinfed ganrif. Ymgorfforwyd y balcaneiddio cyntaf yn Rhyfeloedd y Balcanau, ac ailddefnyddiwyd yng nghyd-destun Rhyfeloedd Iwgoslafia.

Yn Ionawr 2007, ynghylch cynnydd yng nghefnogaeth am annibyniaeth i'r Alban, rhybudiodd Peter Hain, Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Gweinidog Gwaith a Phensiynau, yn erbyn "Balcaneiddio Prydain".[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]