Barc
Gwedd
Delwedd:Neustadt, Rickmer Rickmers, WPAhoi, Hamburg (P1080253-Pano).jpg, 00 2162 Rigging of the four-masted barque Viking.jpg | |
Enghraifft o'r canlynol | math o long, rigin |
---|---|
Math | llong hwylio |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae barc yn llong hwylio sydd a thri neu fwy o fastiau, gyda'r hwyliau ar y mast cefn yn rhedeg ar hyd y llong (fore-and-aft rig) tra mae'r hwyliau ar y mastiau eraill yn rhedeg yn groes i'r llong (square rig).
Credir fod y gair barc yn dod o wahanol ieithoedd Celtaidd, gyda'r Saesneg yn defnyddio bark, efallai o'r Wyddeleg a'r Ffrangeg yn defnyddio barque, efallai o'r Galeg. Yn ddiweddarach daeth barque i'w ddefnyddio yn Lloegr hefyd, tra mae'r Unol Daleithiau yn defnyddio bark.
Gellid hwylio barc gyda llai o griw na rig llong (hynny yw, yr hwyliau i gyd yn groes) neu brig. Ymysg llongau adnabyddus o'r math yma yng Nghymru mae Afon Alaw ac Afon Cefni.