Barry Morgan
Barry Morgan | |
---|---|
Ganwyd | 31 Ionawr 1947 Castell-nedd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Addysg | Doethur mewn Diwinyddiaeth, Uwch Ddoethor |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | offeiriad Anglicanaidd |
Swydd | Archesgob Cymru, Esgob Llandaf, Esgob Bangor |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru |
Archesgob Cymru rhwng 2002 a 2017[1] yw'r Gwir Barchedig Athro Barry Cennydd Morgan MA, DPhil, DCL, DD, FBA (ganed 31 Ionawr 1947). Cyn hynny bu'n Esgob Llandaf.
Yn enedigol o Waun-Cae-Gurwen, Castell-nedd, de Cymru fe ddarllenodd hanes yn Llundain a diwinyddiaeth yng Ngholeg Selwyn, Caergrawnt; fe'i hyfforddodd ar gyfer y weinidogaeth yn Westcott House, Caergrawnt ac astudiodd am ddoethuriaeth pan oedd yn ddarlithydd prifysgol. Mae'n awdur toreithiog ac mae wedi lleisio'i farn yn gryf dros fwy o rym i'r Cynulliad yn ogystal ag yn erbyn datblygu arfau niwclear.
Bu’n gweithio mewn ystod o gyd-destunau gweinidogaethol - mewn gweinidogaeth plwyf, fel darlithydd prifysgol a choleg diwinyddol a chaplan prifysgol, ac fel archddiacon, cyfarwyddwr ordinandiaid a swyddog addysg weinidogaethol barhaus. Mae wedi gwasanaethu ar Bwyllgor Canolog Cyngor Eglwysi’r Byd, ac yn gwasanaethu ar Bwyllgor Sefydlog Archesgobion y Cymundeb Anglicanaidd. Roedd yn aelod o Gomisiwn Lambeth a gynhyrchodd Adroddiad Windsor 2004.
Mae wedi cyhoeddi nifer o erthyglau a llyfrau; y diweddaraf o’r rheini oedd astudiaeth o waith y bardd R. S. Thomas, Strangely Orthodox. Mae hefyd ar hyn o bryd yn Ddirprwy-Ganghellor Prifysgol Cymru, cymrawd Prifysgolion Caerdydd, UWIC, Bangor a Llanbedr Pont Steffan a Llywydd y Ganolfan Gymreig Materion Rhyngwladol, ac mae newydd gadeirio ymchwiliad ar ran Shelter Cymru ar ddigartrefedd yng Nghymru. Mae’n mwynhau chwarae golff a darllen nofelau yn ei oriau hamdden.
Cafodd ei ordeinio yn 1973 a phenodwyd ef yn rheithor Cricieth ac Archddiacon Meirionnydd yn 1986, yna etholwyd ef yn Esgob Bangor yn 1993, cyn symud i fod yn Esgob Llandaf yn 1999. Etholwyd ef yn Archesgob Cymru fel olynydd i Rowan Williams yn 2003.
Ers 2004 mae'n aelod o Weithgor y grŵp dylanwadu traws-bleidiol Cymru Yfory, sy'n gweithio i ennill cefnogaeth i argymhellion Comisiwn Richard ar ddataganoli a chael grym deddfwriaethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Bu'n gyson o blaid ordeinio merched i'r eglwys, a phenododd ferch yn archddeacon yn Llandaf yn y 2010au.
Yn Ebrill 2013 cafodd ei wneud yn un o ddau Noddwr y Wicipedia Cymraeg.
Cyhoeddwyd yn Awst 2016 y byddai'n ymddeol fel Archesgob Cymru ar 31 Ionawr 2017 wedi 14 mlynedd o wasanaeth.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan y Cymrodorion; Archifwyd 2013-02-24 yn y Peiriant Wayback adalwyd 26 Mawrth 2013
- ↑ Archesgob Cymru’n ymddeol. Golwg360 (23 Awst 2016).
Rhagflaenydd: Rowan Williams |
Archesgob Cymru 2003 – 2017 |
Olynydd: John Davies |