Bocsŵn
Sefydlwyd Bocsŵn yn y flwyddyn 2001 er mwyn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc gael profiadau cerddorol a chelfyddydau perfformio cadarnhaol. Arianwyd y prosiect gan BBC Plant Mewn Angen, Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru. Lleolir y prosiect yn Stiwdio 12, Llangefni, Ynys Môn.
Nod y prosiect
[golygu | golygu cod]Mae sylw'r prosiect ar gymryd rhan lawn ac annog creadigrwydd. Mae’r gwasanaethau yn amrywio o’r profiadau cyntaf i ddechreuwyr, hyd at ddarparu gweithdai arbennigol sy’n cefnogi datblygiad ein pobl ifanc talentog.Mae Bocswn yn darparu cyfloedd unigriw i blant a phobl ifanc weithio gyda cherddorion profiadol sy'n eu hannog ac yn eu hysbrydoli i ddysgu sgiliau newydd wrth chwarae offerynnau,cyansoddi canauon a recordio'r gwaith yn y stiwdio bwrpasol.Defnyddir y gerddoriaeth fel arfer ar gyfer mynegiant,fel modd o therapi ac er mwyn annog datblygiad personol.
Mae Bocswn yno i ddarparu gweithdai creu cerddriaeth am ddim i blant a phobl ifanc rhwng 5 a 18 oed.Mae'r creu cerddoriaeth yn cynnwys popeth o roc a phop, i gerddoriaeth glasurol a jazz.
Darpariaethau
[golygu | golygu cod]Mae Bocsŵn yn darparu holl offerynnau bydd angen i gymeryd rhan yn y gweithgaerddau. Bwriad Bocsŵn yw bod pawb yn cael y cyfle i weithio dan arweiniad tiwtoriaid profiadol, profesiynol mewn amgylchedd cyfeillgar a saff. Mae pob buddiolwyr yn cael eu achredu am eu gwaith.[1]
Rhwydwaith Perfformwyr Ifanc
[golygu | golygu cod]Fel rhan o'r prosiect sefydlwyd Rhwydwaith Perfformwyr Ifanc er mwyn meithrin ac annog bandiau ifanc Ynys Môn i fod yn hunan gynaladwy drwy trefnu gigs a digwyddiadau eu hunain.
Bandiau sydd yn cael eu cynnwys yn y Rhwydwaith yw Carma, An(n)earol a Jac Elis Roberts
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Menter Iaith Mon". Menter Iaith Mon. 1/12/17. Check date values in:
|date=
(help)