Bukovyna
Map o Bukovyna (oren) o fewn ffiniau presennol Rwmania ac Wcráin. | |
Math | rhanbarth, Ukrainian historical regions, Historical regions of Romania |
---|---|
Prifddinas | Chernivtsi |
Poblogaeth | 6,870, 800,098 |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Rwmania Wcráin |
Cyfesurynnau | 48°N 26°E |
Sefydlwydwyd gan | y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd |
Rhanbarth hanesyddol yn Nwyrain Ewrop yw Bukovyna (Wcreineg: Буковина, Rwmaneg: Bucovina, Pwyleg: Bukowina, Almaeneg: Bukowina neu Buchenland) a leolir yng ngogledd-dwyrain Mynyddoedd Carpathia, ar y ffin rhwng Wcráin a Rwmania.
Hanes
[golygu | golygu cod]Yn yr Oesoedd Canol, gwladychwyd yr ardal gan Foldafiaid (Rwmaniaid) a Rwtheniaid, a daeth dan reolaeth Tywysogaeth Moldafia yn y 14g. Bu Suceava, yn ne'r ardal, yn brifddinas Moldafia o'r 14g hyd at ganol yr 16g, pryd ddaeth Moldafia yn ddarostyngedig i'r Ymerodraeth Otomanaidd.
Ym 1774 ildiodd yr Otomaniaid y diriogaeth i'r Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd. Cafodd Bukowina, neu Buchenland, ei gweinyddu fel ardal filwrol nes iddi gael ei hymgorffori ym 1786 yn rhan o Deyrnas Galisia a Lodomeria—un o diroedd coronog y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd (Ymerodraeth Awstria wedi 1804)—fel Dosbarth Bukowina neu Ddosbarth Czernowitz. Ym 1849, dyrchafwyd y rhanbarth yn Ddugiaeth Bukowina, a ddatganwyd yn un o diroedd coronog Cisleithania yn Awstria-Hwngari (1867–1918). Câi Bukovyna ei hystyried yn rhanbarth strategol bwysig ar y ffordd drwy Fynyddoedd Carpathia o Galisia i Dransylfania, ac aeth yr Awstriaid ati i ddatblygu'r brif ddinas, Czernowitz (bellach Chernivtsi, Wcráin), yn ganolfan fasnach ac addysg. Ymdrechodd yr Awstriaid i gadw'r heddwch rhwng y Rwtheniaid, neu Wcreiniaid, yn y gogledd a'r Rwmaniaid yn y de, a'r lleiafrifoedd ethnig—Almaenwyr, Pwyliaid, ac Iddewon—yn yr ardaloedd trefol.[1]
Wedi i Dywysogaeth Rwmania sicrhau ei hannibyniaeth oddi ar yr Ymerodraeth Otomanaidd ym 1878, ceisiodd am gyfeddiannu Bukovyna, gan ddadlau bod y rhanbarth yn darddle hanesyddol Tywysogaeth Moldafia ac felly yn rhan annatod o famwlad y Rwmaniaid. Yn sgil cwymp Awstria-Hwngari ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf ym 1918, meddiannwyd Bukovyna gan luoedd Teyrnas Rwmania. Er i rai o'r boblogaeth Wcreinaidd geisio ymgorffori eu hardaloedd yn y gogledd yn rhan o Weriniaeth Pobl Gorllewin Wcráin, llwyddodd Rwmania i ennill rheolaeth dros yr holl ranbarth yn ôl Cytundeb Saint-Germain (1919). Yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd, gorfododd y llywodraeth bolisi o Rwmaneiddio'r rhanbarth, gan gynnwys gwahardd yr iaith Wcreineg a'i diwylliant ac erledigaeth Eglwys Uniongred Wcráin.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, meddiannwyd gogledd Bukovyna gan yr Undeb Sofietaidd ym Mehefin 1940; adenillodd y Rwmaniaid y diriogaeth yn sgil Cyrch Barbarossa (1941). Ailgipiwyd gogledd Bukovyna ym 1944, ac ymgorfforwyd yr honno—Oblast Chernivtsi—yn rhan o Weriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Wcráin yn swyddogol ym 1947.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Bukovina. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Hydref 2022.