Cafflogion
Math | cwmwd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Llŷn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.887°N 4.418°W |
Un o dri chwmwd cantref Llŷn, teyrnas Gwynedd, oedd Cafflogion (amrywiadau: Afflogion, Afloegion). Dywedir iddo gael ei sefydlu gan Afloeg, un o feibion Cunedda (er bod 'Afloegion' yn ffurf gywirach at enw'r cwmwd felly, Cafflogion sy'n arferol yn nogfennau'r Oesoedd Canol).
Gorweddai ar lan Bae Ceredigion, rhwng Ynysoedd Tudwal ac afon Erch. I'r gorllewin gorweddai cwmwd Cymydmaen a phenrhyn eithaf Llŷn, ac i'r gorllewin roedd y trydydd cwmwd, Dinllaen.
Lleolid llys y cwmwd ym Mhwllheli, "tref" fechan ganoesol ar y pryd, i fyny yng nghornel dwyreiniol y cwmwd. Roedd y "trefi" eraill yn cynnwys Abersoch (Soch), Castellmarch, a Penyberth.
Fel ei gymdogion, gorweddai cwmwd Cafflogion ar un o lwybrau'r pererinion i Enlli, ond roedd yn llai prysur na'r llwybr gogleddol trwy Ddinllaen. Roedd y canolfannau eglwysig yn cynnwys Penrhos, Llanfihangel Bachellaeth, Llaniestyn, Llanbedrog a Llangïan.
Plwyfi
[golygu | golygu cod]- Botwnnog
- Denïo (ger Pwllheli)
- Llanbedrog
- Llanfihangel Bachellaeth
- Llangïan
- Llaniestyn
- Penrhos
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Ffynhonnell
[golygu | golygu cod]- A. D. Carr, 'Medieval Administrative Units', yn Atlas of Caernarvonshire (Caernarfon, 1977)