Location via proxy:   [ UP ]  
[Report a bug]   [Manage cookies]                
Neidio i'r cynnwys

Capel

Oddi ar Wicipedia
Capel
Enghraifft o'r canlynolbuilding type Edit this on Wikidata
Matheglwys, adeiladwaith pensaernïol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Capel Gellimanwydd, Rhydaman.

Adeilad ar gyfer gwasanaethau crefyddol Cristnogol yw Capel. Daw'r gair o'r Lladin capella, bychanig y gair cappa, "mantell". Y cysylltiad yw mantell Sant Martin o Tours (316 - 397), a gedwid fel crair crefyddol, ac a roddodd yr enw i'r adeilad.

Yn yr Eglwys Gatholig, defnyddir "capel" fel term am adeilad lle gellir gweinyddu'r offeren, ond nad yw'n eglwys y plwyf. Defnyddir y term hefyd am ystafell ochr mewn eglwys. Yng Nghymru, dyma'r term arferol ar gyfer lle o addoliad Ymneilltuol, a cheir nifer fawr ohonynt.

Adeiladwaith capeli

[golygu | golygu cod]

Y Gwaith Coed

[golygu | golygu cod]

Math o goed

[golygu | golygu cod]

Beth oedd tarddiad coed y to a choed y dodrefn mewn capeli? I ble daeth y deunydd crai? Oedd y coed yn wahanol mewn gwahanol enwadau. Dyma nodyn sy'n codi'r cwestiynau a chyflwyno'r pwnc, gan Wil Williams:

Pitch Pine (pinwydden pyg): Dyma lun Ronnie Jeffers[1] o'r pentra ‘ma [Bethel, Bodorgan], yn atic Capel MC Bethel. Mae Ronnie'n arbenigwr ar doi - wedi bod yn gweithio ar stad leol am hanner cant o flynyddoedd. Sbiwch ar faint coed y to! Pitch pine, siwr o fod. Sut yn y byd oeddan nhw'n cael y coed i'r safle i ddechra (o ystyried mai tua 3- 4 llath o hyd oedd trol) a sut oeddan nhw'n codi'r fath goed ar dop y walia sydd tua ugain troedfedd o uchder. Mae'r coed sydd yn rhedeg led y capel yn 9"x 15" a tua 40 troedfedd o hyd.

Ffawydd Melyn: Roedd y diweddar Arfon Prichard, Garndolbenmaen wastad yn cyfeirio at y "pitch pein" fel "ffawydd melyn": "ew, hen bren da. Eith y pry' ddim ar ei gyfyl" meddai.[angen ffynhonnell]

  • Fagus sylvatica ffawydden, ffawydd
  • Pinus palustris ffawydden felen, ffawydd melyn

Economi ac ymarferoldeb

[golygu | golygu cod]

A bwrw mai pinwydd pyg oedd prif ddeunydd adeiladwaith pren capeli a'u dodrefn, beth oedd y broses economaidd ac ymarferol rhwng de-ddwyrain yr UD a safle'r capel; o feddiannu'r coed ar eu traed yn ne Carolina, trwy eu cwympo a'u cludo, i'r cyrraedd a'u trin?

Pinus palustris ydi pitch pine i ni, ond Pinus rigido ydi pitch pine yn Wikipedia, hefo Pinus palustris yn cael ei alw yn longleafe pine. Tybad faint sydd gan y Methodistiaid Calfinaidd i neud hefo mewnforio pitch pine i adeiladu eu capeli yn ystod y ddeunawfed ganrif? Yn Ships and Seamen of Anglesey 1558 - 1918 gan Aled Eames, ceir hanes y teulu Davies, Porthaethwy, yn mynd a pobl a llechi i Ogledd America a dwad a llwythi o goed yn ôl. Buasa'n ddiddorol cael gwybod os mai pitch pine oedd y llwythi coed hynny.[2]

Soniodd 'Wyn Pen Lon', Niwbwrch, (saer da a gafodd ei brentisio gyda chriw cynnal y chadw Stad Bodorgan, cyn mentro dechrau busnes llwyddiannus fel saer hunan gyflogedig) fel hyn:

"Cafodd Plas Bodorgan ei ail adeiladu rhwng 1780 a 1784 - dechra y cyfnod o adeiladu capeli ? Roedd Wyn yn deallt i'r coed a ddefnyddwyd i adeiladu y plasdy wedi eu nofio ar hyd y Fenai, heibio Llanddwyn ac i aber Afon Cefni, o Borthaethwy i Bodorgan! Coed oedd rhain wedi eu mewnforio o Ogledd America i Borthaethwy gan y teulu Davies mae'n debyg".[3]

Y Gwaith Cerrig

[golygu | golygu cod]

Dyma ddisgrifiad cyfoes o'r gwaith gwirfoddol caled a wnaethpwyd i godi un capel yn Nhywyn Meirionnydd (boed nodweddiadol neu beidio):

"Pan benderfynnodd henaduriaid Eglwys Bethel, Tywyn adeiladu capel mwy ei faint yn 1871 "darfu i ffermwyr a chertwyr yr Eglwys gario y defnyddiau at ei adeiladu yn rhad ..... ac fe gododd Mr John Daniel, Caethle, a'i was yn fore fore er mwyn cael mynd â'r llwyth cyntaf at y deml newydd, ac aed i lan y môr am lwyth o gerrig ...... gan fod y llwyth yn drwm torrodd echel y drol a methwyd myned gam ymhellach, a daeth Mr Rowland Edward, y Vaenol, a'i lwyth heibio iddynt"[4][5]

Lleoedd

[golygu | golygu cod]

Ceir nifer o enwau lleoedd yng Nghymru gyda "Capel" ynddynt, er enghraifft

Ceir hefyd lawer o enwau beiblaidd ar bentrefi oedd yn wreiddiol yn enw ar gapel, er enghraifft Bethesda.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. gweler Bwletin Llên Natur rhifyn 56, t. 3
  2. Wil Williams ym Mwletin Llên Natur rhifyn 56 (tudalen 3)
  3. Wil Williams (cys. pers. a D.W. Williams (1986), Canu Mawl i Deulu Bodorgan (llyfryn i nodi'r achlysur uchod gan y WEA)
  4. Jones, Meredith, 1929, Ychydig o Hanes Eglwys Bethel, Towyn. cyh. J. Wynne Williams
  5. Gweler Dyddiadur Edward Edwards, Tywyn, Meirionnydd