Caprys
Blagur blodau bwytadwy'r llwyn caprysen, Capparis spinosa, yw caprys, sy'n cael eu defnyddio fel sesnin neu addurno mewn coginio. Mae llwyn caprysen yn blanhigyn lluosflwydd o'r ardal Môr y Canoldir sy'n dwyn dail crwn, cigog a blodau mawr gwyn i binc-gwyn. Mae'r blagur anaeddfed yn cael eu sychu yn yr haul ac yna'n cael eu trin â halen neu heli neu finegr neu win er mwyn eu piclo.
Caiff ffrwyth y llwyn, aeron caprys, eu piclo mewn ffordd debyg, ac yn aml maent yn cael eu bwyta mewn hors-d'oeuvres neu mezze yn debyg iawn i olewydd.
Mae caprys yn cael eu categoreiddio yn ôl eu maint, a'r meintiau lleiaf yw'r rhai mwyaf dymunol a drutaf: "non-pareil" (hyd at 7 mm), "surfines" (7–8 mm), "capucines" (8–9 mm), "capotes" (9–11 mm), "fines" (11–13 mm), a "grusas" (14+ mm).
Mae gan gaprys lawer o ddefnyddiau yn y gegin. Mae ganddynt gysylltiad naturiol â physgod, ac maent yn rhan hanfodol o nifer o sawsiau, gan gynnwys saws tartar, a'r salsa verde Eidalaidd.
-
Casglu caperys yn ynys Pantelleria
-
Caprys wedi'u halltu
-
Caprys mewn heli
-
Aeron caprys