Carchar y Parc
Enghraifft o'r canlynol | carchar |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1997 |
Lleoliad | Pen-y-bont ar Ogwr |
Gweithredwr | G4S |
Rhanbarth | Coety Uchaf |
Mae Carchar y Parc EF neu Carchar Parc (Saesneg: HM Prison Parc) yn garchar preifat Categori B i ddynion ac yn Sefydliad Troseddwyr Ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae’n cael ei weithredu gan gwmni diogelwch preifat G4S. Dyma’r unig garchar sy’n cael ei weithredu’n breifat yng Nghymru.
Hanes
[golygu | golygu cod]Ysbyty'r Parc, sef ysbyty seiciatrig, oedd ar y safle yn flaenorol.[1] Datblygwyd Carchar y Parc drwy gontract Menter Cyllid Preifat (PFI) ym mis Ionawr 1996[2] a'i adeiladu gan Grŵp Costain ar gost o £82 miliwn, gan agor ym mis Tachwedd 1997.[3]
O'i agor, roedd Carchar y Parc yn llawn problemau. Amlygwyd methiannau yn y dechnoleg diogelwch, hiliaeth gwrth-Seisnig gan garcharorion Cymreig, a nifer uchel o hunanladdiadau fel pryderon gan Brif Arolygydd Carchardai Ei Mawrhydi mewn adroddiad ym 1999.[4] Fodd bynnag, ym mis Mawrth 2001, nododd adroddiad gan y Prif Arolygydd welliant mawr mewn safonau.[5]
Ym mis Awst 2004, nododd adroddiad gan y Bwrdd Monitro Annibynnol mai Carchar y Parc oedd â'r perfformiad gwaethaf o bob un o'r deg carchar preifat yng Nghymru a Lloegr. Beirniadodd yr adroddiad y diffyg cyfleusterau gofal iechyd ar wahân ar gyfer pobl ifanc, lefel annigonol y ddarpariaeth ddeintyddol, a morâl staff gwael.[6]
Ym mis Ionawr 2013, cyhoeddodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder y byddai bloc tai ychwanegol yn cael ei adeiladu, gan gynyddu capasiti.[7]
Wedi cyfnod ansicr, yn 2020 nododd archwilwyr bod lefel diogelwch yn y carchar wedi gwellaz, a hynny'n groes i'r patrwm ar draws Prydain. Ychydig iawn o ymosodiadau ar staff a welwyd, ac roedd lefel y trais yn y carchar wedi disgyn, er ei fod ychydig yn uwch na charchardai eraill.
Roedd 1,612 yng Ngharchar y Parc adeg yr archwiliad yn Nhachwedd 2019, gydag 17% o'r rheini yn droseddwyr rhyw.[8]
Cyflwr presennol
[golygu | golygu cod]Mae Carchar y Parc yn dal oedolion gwrywaidd Remand ac wedi'u Dedfrydu Categori B, pobl ifanc, a throseddwyr ifanc. Mae gan bob cell system glanweithdra, awyru naturiol a gorfodol, a thrydan. Mae'r carchar yn nodi bod gan bob adain boeleri dŵr poeth, ffonau PIN, byrddau pŵl a thenis bwrdd, cawodydd, cyfleusterau golchi dillad, ac ardaloedd cymdeithasu.
Darperir addysg gan adran addysg fewnol. Cynigir ystod o bynciau gan gynnwys Saesneg, mathemateg, technoleg gwybodaeth, celf, cerddoriaeth, lletygarwch ac ieithoedd ac ystod o gymwysterau galwedigaethol. Mae cymwysterau hyd at ac yn cynnwys cyrsiau'r Brifysgol Agored ar gael. Mae cyfadeilad diwydiannau'r carchar yn cynnwys naw gweithdy gan gynnwys gwaith coed, gwaith metel, dylunio graffeg a phrint, a glanhau diwydiannol. Mae'r holl weithdai eraill wedi'u neilltuo i gontractau gweithgynhyrchu gyda chwmnïau lleol.
Mae cyfleusterau eraill yn y carchar yn cynnwys llyfrgell, campfa, ystafell ffitrwydd, a chaplaniaeth aml-ffydd. Mae ffreutur a meithrinfa yn neuadd ymweliadau'r carchar.
Mae gan y Parc ddeg adain sy'n cynnwys wyth oedolyn a dwy adain YPU. Mae llety carcharorion yn gymysgedd o gelloedd sengl a dwbl.
Eisteddfod yr Urdd
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd Aelwyd y Parc, sef aelwyd yr Urdd ar gyfer cystadlu mewn Eisteddfodau'r Urdd gyda'r slogan, 'Carchar heb Iaith, Carchar heb Galon'. Sefydlwyd partneriaeth gan yr Urdd gyda'r carchar er mwyn "cynnig cyfleoedd diwylliannol Cymreig i droseddwyr". Yn cystadlu dan ffugenwau, mae gwaith dau garcharor o Aelwyd y Parc yn cael ei arddangos ochr yn ochr â holl enillwyr eraill y Pafiliwn Celf, Dylunio a Thechnoleg ar faes Eisteddfod yr Urdd 2023 yn Llanymddyfri.
Dechreuodd y bartneriaeth ym mis Mawrth 2023 gyda gwahoddiad i'r Urdd fynychu eisteddfod Gŵyl Ddewi yn y carchar, lle'r oedd troseddwyr yn cystadlu mewn cystadlaethau llwyfan, ysgrifennu, barddoniaeth a chelf a chrefft.
Syniad Bethan Chamberlain, cynghorydd yr iaith Gymraeg i Garchar y Parc, oedd sefydlu'r eisteddfod a gofyn a gai'r carcharorion ymuno â'r Urdd. Cafodd dau fachgen ifanc rhwng 18 a 25 oed wobrau cyntaf ac ail yn y gystadleuaeth ‘Gwaith 3D Blwyddyn 10 a dan 25 oed Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymedrol (unigol neu grŵp)’.[9] Dyfarnwyd y wobr gyntaf yn yr eisteddfod i'r gwaith celf gyda Thair Pluen Tywysog Cymru (ac arfbais tîm rygbi Cymru gan un o'r carcharorion yn Eisteddfod yr Urdd, Sir Gâr yn 2023.[10]
Ceir hefyd gwersi Cymraeg i garcharorion a staff a digwyddiadau fel 'Welsh Wednesdays'.[11]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Parc Hospital". County Asylums. Cyrchwyd 17 April 2019.
- ↑ "The PFI Contracts for Bridgend and Fazakerley Prisons" (PDF). National Audit Office. 31 October 1997. t. 66. Cyrchwyd 17 April 2019.
- ↑ "Remand prisoner freed by mistake". BBC. 19 July 2006. Cyrchwyd 17 April 2019.
- ↑ "Control is 'fragile' at high-tech prison". bbc.co.uk. 14 October 1999. Cyrchwyd 2008-12-30.
- ↑ "Prison responds to critics". bbc.co.uk. 20 March 2001. Cyrchwyd 2008-12-30.
- ↑ "Private jail 'worst' says report". bbc.co.uk. 10 August 2004. Cyrchwyd 2008-12-30.
- ↑ Danny Shaw (2013-01-10). "BBC News - Seven prison closures in England announced". Bbc.co.uk. Cyrchwyd 2013-04-12.
- ↑ "Diogelwch Carchar y Parc, Pen-y-bont wedi gwella". BBC Cymru Fyw. 17 Mawrth 2020.
- ↑ "Carcharorion yn cystadlu yn yr Urdd". Golwg360. 31 Mai 2023.
- ↑ "'Cynnig cyfleoedd' wrth ffurfio aelwyd Urdd mewn carchar". BBC Cymru Fyw. 31 Mai 2023.
- ↑ "Defnyddia dy Gymraeg - Carchar y Parc". Sianel Youtube Comisiynydd y Gymraeg. 9 Rhagfyr 2023.