Cartŵn gwleidyddol
Cartŵn sy'n cyfleu neges wleidyddol neu gymdeithasol, gan amlaf parthed materion cyfoes a phobl yn y newyddion, yw cartŵn gwleidyddol, cartŵn golygyddol, neu gartŵn dychanol. Gan amlaf ymddangosant ar dudalen olygyddol papur newydd, ond yn hanesyddol bu gyfryngau i gartwnau gwleidyddol mewn pamffledi, cylchgronau, llyfrau, ac heddiw ar y rhyngrwyd. Maent yn aml yn gwneud defnydd o drosiadau gweledol a gwawdluniau. Mewn gwledydd democrataidd, ystyrid y mwyafrif o gartwnau gwleidyddol yn rhan o ddisgwrs sifil sydd yn mynegi barn y cartwnydd (neu ei gyflogwr) ond weithiau cyhuddir cartwnau o fod yn enghreifftiau o bropaganda cryfach. O bryd i'w gilydd mae cartwnau wedi achosi cryn anghydfod, er enghraifft dadl cartwnau Muhammad Jyllands-Posten.
Mae'n bosib bod cartwnau gwleidyddol yn cyfrannu at ddiwylliant gwleidyddol sy'n rhoi llais i ddicter y bobl mewn modd heddychlon yn hytrach nag angen troi at ddulliau treisgar.[1]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Rath, Kayte (24 Tachwedd 2012). Political cartoons: Britain's revolutionaries. BBC. Adalwyd ar 25 Tachwedd 2012.