Charles de Gaulle (llenor)
Charles de Gaulle | |
---|---|
Ganwyd | Charles Jules Joseph de Gaulle 31 Ionawr 1837 Valenciennes |
Bu farw | 1 Ionawr 1880 Paris |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | llenor, bardd |
Tad | Julien-Philippe de Gaulle |
Llinach | teulu de Gaulle |
Bardd Llydaweg ac un o arloeswyr Pan-Geltigiaeth oedd Charles de Gaulle, Llydaweg: Charlez Vro-C'hall (31 Ionawr 1837 - 1 Ionawr 1880). Roedd yn ewythr i Charles de Gaulle, Arlywydd Ffrainc.
Nid oedd de Gaulle yn Llydawr; ganed ef yn Valenciennes a threuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn ninas Paris. Yn ei ieuenctid, tarawyd ef gan afiechyd parlysol. Dechreuodd astudio'r ieithoedd Celtaidd wedi darllen Barzaz Breiz yn 16 oed. Dysgodd Lydaweg, Cymraeg a Gaeleg, er na allodd erioed ymweld a gwlad Geltaidd. Wedi cyfarfod Théodore Hersart de la Villemarqué, awdur Barzaz Breiz, daeth yn ysgrifennydd Breuriez Breiz, cymdeithas o feirdd Llydewig ym Mharis. O 1864 ymlaen, dechreuodd gyhoeddi erthyglau ar y diwylliant Celtaidd, a barddoniaeth Lydaweg.
Roedd yn frwd dros undod y gwledydd Celtaidd, a'r pwysigrwydd o barhad yr ieithoedd Celtaidd gan gynnig y dylid creu Undeb Celtaidd a datblygu iaith "esperanto" Geltaidd, yn cynnwys elfennau oedd yn gyffredin i bob un o'r ieithoedd Celtaidd. Ysgrifennodd at arweinyddion diwylliannol yng Nghymru, Iwerddon a'r Alban i drefnu cyngres Pan-Geltaidd yn Saint-Brieuc yn 1867. Mae'n debyg mai ef oedd y cyntaf i alw am fudiad pan-Geltaidd.[1] Ni allai ef ei hun fod yno oherwydd ei afiechyd, ond ysgrifennodd gerdd Da Varsez Breiz ("Gyda Beirdd Llydaw"), yn cynnwys y llinellau:
- E Paris va c'horf zo dalc'het
- Med daved hoc'h nij va spered
- Vel al labous, a-denn askell,
- Nij de gaout he vreudeur a bell
- (Ym Mharis y delir fy ngorff
- Ond tuag atoch ehed fy enaid,
- Fel aderyn yn hedfan,
- I gyfarfod fy mrodyr o bell.)
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwyddioniadur Cymru. Cyd-olygyddion:John Davies, Menna Baines, Nigel Jenkins a Peredur Lynch. Gwasg Prifysgol Cymru. 2008 Td