Coctel
Gwedd
Diod alcoholaidd ffasiynol sy'n gymysgedd o ddau neu ragor o gynhwysion wedi'u cymysgu a'u paratoi mewn ffordd arbennig yw coctel. Yn wreiddiol, arferai'r term coctel gyfeirio at gymysgedd o wirodydd, siwgr, dŵr, a chwerwon,[1] ond yn raddol newidiodd y gair i olygu unrhyw ddiod bron sy'n cynnwys alcohol.[2]
Erbyn heddiw, mae coctel yn cynnwys mwy nag un math o wirod ac un cymsygydd neu fwy megis chwerwon, sudd ffrwyth, ffrwyth, iâ, siwgr, mêl, llaeth, hufen, neu berlysiau.[3]
Mae Mair waedlyd, sy'n cynnwys fodca a sudd tomato, yn un o'r coctelau mwyaf adnabyddus.