Coginiaeth Belarws
Adlewyrchiad o hanes Belarws fel cyffindir rhwng Gwlad Pwyl, gwledydd y Baltig, yr Wcráin, a Rwsia yw coginiaeth Belarws. Yn debyg i ddiwylliannau eraill yn Nwyrain Ewrop, bwyteir llawer o datws, betys, bara rhyg, borscht, ac uwd. Nid oes pridd hynod o ffwythlon gan Felarws, ac mae'r tir yn wastad ac yn llawn coedwigoedd a chorsydd, llynnoedd a'r tair afon fawr Dnieper, Neman, a Pripyat. O ganlyniad i'w hinsawdd a'i thirwedd, pwysleisir helfilod, pysgod yr afonydd, a madarch yng nghoginiaeth Belarws, a'r defnydd helaeth o datws a madarch sy'n ei neilltuo oddi ar ddiwylliannau coginio gwledydd eraill yn Nwyrain Ewrop. Dylanwadau diwylliannol coginiaeth y wlad ydy'r werin Gristnogol, y lleiafrif sylweddol o Iddewon a fu'n byw yn y wlad, a'r lleiafrif bychan o Dartariaid Mwslimaidd. Benthycir nifer o seigiau hefyd o Orllewin Ewrop drwy ddylanwad y bendefigaeth Gatholig yn y cyfnod modern cynnar, ac o'r Cawcasws a Chanolbarth Asia yn ystod yr oes Sofietaidd.[1]
Prif fwydydd
[golygu | golygu cod]Nid yw'n hawdd tyfu gwenith ym mhridd Belarws, ac felly gwneir bara yn draddodiadol o ryg a theisenni, cawliau, ac uwd o geirch a gwenith yr hydd. Ers y 19g, y daten yw bwyd pwysicaf coginiaeth Belarws, a fe'i defnyddir i wneud cawliau, prif seigiau, a byrbrydau. Ymhlith y llysiau cyffredin mae betys, moron, bresych, a suran. Bwyteir bresych naill ai'n ffres neu ar ffurf picl, a fe'i ychwanegir at gawliau a stiwiau. Câi madarch eu marinadu, eu halltu, eu sychu, a'u coginio'n ffres. Defnyddir sawl math o fadarch i flasu cawl, ac yng nghoginiaeth fodern i gyd-fynd â chig a physgod a'u hychwanegu at salad. Cynhwysyn cyffredin yn rhanbarth Palesye ydy llugaeron. Defnyddir aeron eraill, ceirios, afalau, a gellyg i felysu seigiau, i lenwi twmplenni, ac i eplesu diodydd. Defnyddir llaeth yn draddodiadol mewn cawliau a stiwiau, ac i wneud cawsiau fferm megis tvaroh, a fwyteir naill ai ar ben ei hun neu mewn twmplenni a bara miod. Fel arfer, blas mwyn sydd i fwyd Belarws. Y prif berlysiau a chyflasynnau ydy halen, pupur, winwyn, garlleg, dail y cwrw, llysiau'r gwewyr, ac weithiau llysiau'r bara ac hadau carwe.[2]
Ni ddaeth cig yn rhan gyffredin o ymborth y werin nes yr 20g. Cig moch ydy'r mwyaf poblogaidd, fel arfer wedi ei rostio a'i roi mewn stiw. Gwneir selsig o waed a chig y moch. Yn debyg i wledydd eraill Dwyrain Ewrop, câi braster moch ei halltu a'i sychu mewn mwg ac yna'i ddefnyddio i flasu tatws a ballu, fel saim wrth goginio, neu'n ddanteithfwyd ar ben ei hun. Yn hanesyddol, cafodd y bual Ewropeaidd (zubr) a'r baedd eu hela, a bwyteir cig baedd hyd heddiw gyda bresych, selsig, a madarch ar ffurf y stiw bigas, a fwyteir hefyd yng Ngwlad Pwyl a Lithwania. Daeth cig eidion yn boblogaidd yn yr oes Sofietaidd, a fe'i defnyddir hefyd yn draddodiadol yng nghoginiaeth yr Iddewon. Daeth ambell saig Iddewig, megis saim ieir wedi ffrio a gyddfau cyw iâr a gwyddau wedi eu llenwi, yn boblogaidd ymhlith y Cristnogion ym Melarws. Bwyteir gŵydd wedi ei rhostio yn aml ar Ŵyl Farthin. Hyd yr 20g, pysgod yr afonydd a physgod hallt o'r Môr Baltig, yn enwedig penwaig, oedd yr unig bysgod a fwyteid ym Melarws. Cawsant eu rhoi mewn cawliau, eu pobi, neu eu defnyddio i lenwi twmplenni.[2]
Prydau
[golygu | golygu cod]Brecwast
[golygu | golygu cod]Seigiau syml iawn a arferid gan y werin am frecwast, megis bloneg a bara, tatws wedi eu berwi neu eu ffrio, uwd a llaeth, ac wyau wedi eu berwi neu eu ffrio mewn bloneg. Câi grefi vierashchanka neu machanka ei wneud o fraster cig a blawd, a'i weini gyda chrempogau a wneid o geirch, tatws, neu flawd gwenith. Bu Belarwsiaid cyfoethog yn ychwanegu perlysiau a selsig at eu boreufwyd. Mae Belarwsiaid yn parhau i fwyta brecwast diwallol, gan amlaf gyda bara menyn neu frechdanau pate, selsig, a chaws. Bwyteir hefyd uwd a wneir o wenith yr hydd, blawd, neu geirch gyda llaeth a siwgr. Mae rhai yn dewis wyau wedi eu berwi, cymysgwy, neu rawnfwyd a llaeth mewn powlen. Yfir te a choffi.[3]
Cinio
[golygu | golygu cod]Prif bryd o fwyd y dydd yn hanesyddol oedd cinio canol dydd. Bwyteid cawl tew a stiw fel arfer, gan deuluoedd tlawd a chefnog fel ei gilydd. Y prif ddiod i gyd-fynd â'r bwyd oedd kvass, wedi ei eplesu o fara rhyg a'i flasu weithiau â ffrwythau. Weithiau cafodd fodca (harelka) neu sudd bedw eplesedig (biarozavik) ei yfed. Byddai'r werin dlotaf yn bwyta bara gyda zatsirka, potes tenau o ddŵr a blawd, ac efallai llaeth, yn unig. Cinio oedd yn dal i fod yn bryd pwysicaf y dydd am y rhan fwyaf o'r 20g. Penwaig neu salad a chawl tew oedd i gychwyn, yna'r prif gwrs o gig a thatws, a phwdin bach i orffen. Yn yr 21g, mae Belarwsiaid yn debygol o gael cinio llai o faint yn y prynhawn, megis arfer Gorllewin Ewrop.[3]
Swper
[golygu | golygu cod]Bu'r swper draddodiadol yn debyg i frecwast, ac yn cynnwys uwd, bara, tatws, a llaeth. Datblygwyd ambell rysáit arbennig gan yr uchelwyr Belarwsiaidd, er enghraifft kalduny à la Count Tyshkevich sef twmplenni llawn wy, cig moch, a madarch. Heddiw, swper neu ginio'r prynhawn hwyr yw prif bryd y dydd gan amlaf. Byddai'r saig yn debyg i brydau eraill: tatws, bara, uwd, wyau, a chawl.[3]