Colosws Rhodos
Math | lost sculpture, colossal statue, Rhyfeddod yr Henfyd, cyn-adeilad |
---|---|
Sefydlwyd |
|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Saith Rhyfeddod yr Henfyd |
Sir | Ancient Rhodes |
Gwlad | Gwlad Groeg |
Cyfesurynnau | 36.45111°N 28.22778°E |
Deunydd | efydd |
Codwyd Colosws Rhodos tua 280 CC i amddiffyn y fynedfa i harbwr Rhodos. Roedd ganddo daldra o tua 30m. Fe'i ystyrid yn un o Saith Rhyfeddod yr Henfyd.
Safai ar ddau ben y ddau forglawdd a amddiffynai'r harbwr, a dywedir bod llongau dan hwyliau llawn yn medru pasio o dano. Fe'i gwnaed allan o efydd ar lun dyn cydnerth, noeth neu led-noeth, a oedd yn cynrychioli Helios, duw'r Haul. Roedd yn waith y peiriannydd ac artist Chares o Lindos, disgybl Lysippos, a dywedir iddo gymryd 12 flynedd i'w orffen. Y tu mewn iddo rhedai grisiau haearn troellog i fyny i'r pen, ac oddi yno gellid gweld ymhell â chymorth gwydrau o ryw fath a hongiai ar wddw y Colosws.
Dechreuwyd ar y gwaith tua 300–280 CC, a daeth yn enwog yn gyflym ledled yr Hen Fyd. Ond nid arosodd yn gyfan yn hir iawn. Yn 224 neu 222 CC trawyd ynys Rhodos gan ddaeargryn a chwympodd rhan uchaf y Colosws i'r harbwr. Cafwyd sawl ymgais i adfer y Colosws ond methiant fu hynny bob tro; honnai'r ynyswyr fod oracl a gafwyd yn Delphi wedi rhagweld hynny. Dywedir i'r gweddillion gael eu gwerthu gan y Saraseniaid, oedd wedi meddianu'r ynys, i fasnachwr Iddewig o Edessa yn 672 OC. Roedd yna gymaint o efydd fel y bu rhaid wrth 900 camel i'w gludo i ffwrdd.
Ceir cyfeiriadau at y Colossus yng ngwaith Plinius yr Hynaf (liber 34, pennod 7, 18).
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- J. Lempriere, A Classical Dictionary (arg. newydd, Llundain, d.d.)
- Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902)