Plinius yr Hynaf
Plinius yr Hynaf | |
---|---|
Ganwyd | 20s Novum Comum |
Bu farw | 79 o echdoriad folcanig Stabiae |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | llenor, hanesydd, naturiaethydd, person milwrol, bardd, athronydd, hanesydd celf, gwas sifil, cadlywydd milwrol |
Swydd | Procurator, praefectus classis Misenensis |
Adnabyddus am | Natural History |
Tad | Gaius Plinius Celer |
Mam | Marcella |
Plant | Plinius yr Ieuengaf |
Perthnasau | Plinius yr Ieuengaf |
Roedd Gaius Plinius Secundus (23 OC – 24 Awst 79 OC), mwy adnabyddus fel Pliniws yr Hynaf, yn awdur a milwr Rhufeinig. Mae'n fwyaf adnabydus am ei waith Naturalis historia.
Ganed Pliniws yn Como yng ngogledd yr Eidal. Aeth ei dad ag ef i Rufain, lle'r addysgwyd ef gan gyfaill ei dad, y bardd a milwr Publius Pomponius Secundus. Astudiodd fotaneg yn topiarius (gardd docweithiol) Antonius Castor. Ymhlith ei astudiaethau eraill roedd athroniaeth a rhethreg, a bu'n gyfreithiwr am gyfnod.
Ymunodd â'r fyddin a gwasanaethodd dan Corbulo yn nhalaith Germania Inferior yn 47, gan gymeryd rhan yn yr ymgyrch yn erbyn llwyth y Chauci. Bu yn Sbaen a Gâl, lle dysgodd ystyr nifer o eiriau yn yr ieithoedd Celtaidd. Dan yr ymerawdwr Nero roedd yn byw yn Rhufain, gan weithio ar ei lyfr Hanes y Rhyfeloedd Germanaidd. Defnyddiwyd hwn fel ffynhonnell gan Tegid yn ei Annales ac yn ôl pob tebyg roedd yn un o brif ffynonellau Germania Tegid. Ysgrifennodd hefyd ar ramadeg a rhethreg, gan gyhoeddi Studiosus ac yna Dubii sermonis yn 67.
Pan ddaeth ei gyfaill Vespasian yn ymeradwr, bu'n gwasanaethu fel procuradur yn nhalaith Gallia Narbonensis yn 70 ac yn Hispania Tarraconensis yn 73, Ymwelodd a thalaith Gallia Belgica yn 74. Ysgrifennodd hanes ei gyfnod ei hun mewn 31 llyfr, gyda'r bwriad y byddai'n cael ei gyhoeddi ar ôl ei farwolaeth. Cafodd hwn ei ddefnyddio gan Tegid, Suetonius a Plutarch. Ei waith mwyaf oedd y Naturalis historia, gwyddoniadur oedd yn crynhoi llawer o wybodaeth yr oes.
Apwyntiodd Vespasian ef yn praefectus classis y llynges Rufeinig yn Misenum. Ar 24 Awst. 79, roedd ym Misenum pan ffrwydrodd llosgfynydd Feswfiws; y ffwydrad enwog a ddinistriodd drefi Pompeii a Herculaneum. Croesodd Pliniws y bae i Stabiae (ger tref Castellammare di Stabia heddiw), i astudio'r ffrwydrad yn nes at y mynydd. Bu farw yno; yn ôl ei nai Pliniws yr Ieuengaf a ysgrifennodd hanes ei farwolaeth disgynnodd yn farw yn sydyn, efallai oherwydd nwyon gwnwynig o'r llosgfynydd. Er hynny, ni effeithiwyd ar y cyfeillion oedd gydag ef, ac efallai iddo farw o drawiad y galon neu achos naturiol arall.
O'i lyfrau, dim ond y Naturalis historia sydd wedi goroesi.