Comedi
Math o adloniant sy'n apelio at synnwyr digrifwch ac un o ddwy brif ffurf dradoddiadol y Ddrama (gyda Trasiedi) yw comedi. Mae gan y gair 'comedi' (o'r gair Groeg κωμωδία, komodia) yr ystyr boblogaidd heddiw o unrhyw fath o ymddiddan neu sgets lwyfan sydd yn ceisio diddanu, yn enwedig ym myd teledu, ffilm a chomedi digrifwyr ar eu traed. Dylid nodi'r gwahaniaeth rhwng hyn a diffiniad academaidd y gair, sef comedi y theatr, sy'n tarddu o gyfnod y ddrama glasurol yng Ngroeg yr Henfyd. Yn nemocratiaeth Athen, cawsai pobl eu dylanwadu'n helaeth gan y dychan gwleidyddol, gwaith dramodwyr mawr fel Aristophanes, a berfformid gan yr actorion comig yn y theatrau.
Yn syml, gellir disgrifio'r genre theatraidd fel perfformiad dramatig a rydd dwy gymdeithas yn erbyn ei gilydd er mwyn creu gwrthdaro neu ymryson doniol. Darluniodd Northrop Frye y ddwy ochr gyferbyniol hyn fel "Cymdeithas yr Ifanc" a "Chymdeithas yr Hen"[1], ond pur anaml y derbynir y ddeuoliaeth hyn fel esboniad boddhaol.
Yn ddiweddarach, darluniwyd comedi fel gwrthdaro rhwng ieuenctid cymharol di-bŵer a chyfundrefnau cymdeithasol sy'n rhwystro gobeithion yr ieuanc; yn hyn o beth, caiff y person ifanc ei rwystro gan ei ddiffyg awdurdod cymdeithasol, ac o ganlyniad, nid oes fawr o ddewis ganddo ond i gyflwyno eironi hynod o ddramatig ac mae hyn yn ei dro yn gwneud i'r gynulleidfa chwerthin (Marteinson, 2006).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Northrop Frye, The Anatomy of Criticism (1957)