Crwner
Erthyglau'n ymwneud â |
Marwolaeth |
---|
Angeueg |
Meddygaeth |
Afiechyd anwelladwy · Awtopsi · Ewthanasia |
Achosion a mathau |
Cyfradd marw · Hil-laddiad · Hunanladdiad · Llofruddiaeth |
Wedi marwolaeth |
Amlosgiad · Angladd · Claddedigaeth · Cynhebrwng · Gwylnos |
Y gyfraith |
Corffgarwch · Crwner · Dienyddio · Etifeddiaeth · Ewyllys · Trengholiad |
Crefydd ac athroniaeth |
Aberth dynol · Anfarwoldeb · Atgyfodiad · Bywyd ar ôl marwolaeth · Merthyr · Ysbryd |
Diwylliant a chymdeithas |
Gweddw · Memento mori · Ysgrif goffa |
Categori |
Swyddog llywodraethol sy'n ymchwilio i achosion marwolaethau yw crwner (Lladin: custos placitorum coronae; Eingl-Normaneg: corouner).[1] Mae crwner yn un o hen swyddi'r gyfraith gyffredin,[2] ac mae'n parhau heddiw mewn nifer o wledydd. Gan amlaf bydd crwner yn gyfrifol am ymchwilio i farwolaethau annaturiol o fewn awdurdodaeth benodol.
Y Deyrnas Unedig
[golygu | golygu cod]Cymru a Lloegr
[golygu | golygu cod]Yng Nghymru a Lloegr mae crwner yn swydd farnwrol annibynnol. Rhaid i grwner fod yn gyfreithiwr neu'n feddyg, ac mewn rhai achosion, y ddau. Maent yn ymchwilio i farwolaethau treisgar neu annaturiol, marwolaethau sydyn am resymau anhysbys, a marwolaethau sydd wedi digwydd yn y carchar.[3] Rhaid hysbysu'r crwner hefyd os na all meddyg teulu roi tystysgrif briodol ynghylch achos y farwolaeth, os digwyddodd y farwolaeth yn ystod llawdriniaeth, neu os afiechyd diwydiannol oedd i gyfrif am y farwolaeth.[4]
Yr Alban
[golygu | golygu cod]Ni cheir crwneriaid yn yr Alban. Y Procuradur Ffisgal sy'n archwilio marwolaethau arbennig, ac weithiau cynhelir ymchwiliad llys gerbron y Barnwr Sirol dan Ddeddf Damweiniau Marwol a Marwolaethau Sydyn (Yr Alban) 1976. Nid yw'r Barnwr Sirol yn arbenigwr mewn marwolaethau, ac felly mae'r swydd yn wahanol i swydd y crwner yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.[5]
Gogledd Iwerddon
[golygu | golygu cod]Yng Ngogledd Iwerddon penodir cyfreithwyr neu fargyfreithwyr gan yr Arglwydd Ganghellor i fod yn grwneriaid.[6]
Gweriniaeth Iwerddon
[golygu | golygu cod]Rheolir swydd y crwner yng Ngweriniaeth Iwerddon gan Ddeddf Crwneriaid 1962. Os oes rhaid cynnal archwiliad post-mortem, bydd patholegydd yn gweithredu ar ran y crwner.[7]
Canada
[golygu | golygu cod]Penodir crwneriaid yng Nghanada trwy orchymyn gan Gyngor Gweithredol y dalaith neu'r diriogaeth.[8] Mae crwneriaid neu archwilwyr meddygol yn archwilio rhwng 15% ac 20% o'r holl farwolaethau yng Nghanada.[9]
Unol Daleithiau America
[golygu | golygu cod]Yn yr Unol Daleithiau, mae system o grwneriaid gan tua hanner o'r taleithiau. Yn y mwyafrif o awdurdodaethau mae'n swydd etholedig, ac yn aml bydd gan y crwner y grym i gyhoeddi gwarant i arestio personau gall wedi achosi marwolaeth.[8] Mewn awdurdodaethau eraill, bydd archwiliwr meddygol yn cyflawni dyletswyddau tebyg i'r crwner.[10][11]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Lewis, Robyn. Termau Cyfraith (Llandysul, Gwasg Gomer, 1972), t. 47.
- ↑ Black's Law Dictionary (ail argraffiad, 1910), [coroner].
- ↑ Canllaw ar gyfer Crwneriaid a Chwestau a Siarter ar gyfer Gwasanaethau Crwneriaid. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (Mawrth 2012). Adalwyd ar 7 Awst 2013.
- ↑ Swyddfa'r Crwner. Cyngor Sir Gaerfyrddin. Adalwyd ar 7 Awst 2013.
- ↑ (Saesneg) The position in Scotland. Coroners' Law Resource. Coleg y Brenin, Llundain. Adalwyd ar 7 Awst 2013.
- ↑ (Saesneg) Coroners, post-mortems and inquests. Llywodraeth Gogledd Iwerddon. Adalwyd ar 7 Awst 2013.
- ↑ (Saesneg) Coroners. Citizens Information Board. Adalwyd ar 12 Medi 2013.
- ↑ 8.0 8.1 (Saesneg) coroner. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 12 Medi 2013.
- ↑ (Saesneg) Canadian Coroner and Medical Examiner Database (CCMED). Statistics Canada. Adalwyd ar 13 Medi 2013.
- ↑ (Saesneg) Coroner vs. medical examiner. Llyfrgell Genedlaethol Meddygaeth yr Unol Daleithiau. Adalwyd ar 12 Medi 2013.
- ↑ (Saesneg) The Medical Examiner and Coroner Systems. Medscape. Adalwyd ar 12 Medi 2013.