Location via proxy:   [ UP ]  
[Report a bug]   [Manage cookies]                
Neidio i'r cynnwys

Cwrlo

Oddi ar Wicipedia
Cwrlo
Enghraifft o'r canlynolmath o chwaraeon Edit this on Wikidata
Mathchwaraeon gaeaf, chwaraeon tîm, chwaraeon rhew, chwaraeon olympaidd Edit this on Wikidata
GwladYr Alban Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1966 Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.worldcurling.org Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mabolgamp sy'n tarddu o'r Alban yw cwrlo. Mae dau dîm yn sglefrio meini ar iâ gan anelu at darged o bedwar cylch consentrig. Mae'r gêm yn debyg i fowliau, boules a gwthfwrdd. Mae cwrlo yn un o chwaraeon Olympaidd y gaeaf. Gwneir y meini cwrlo o garreg gwenithfaen gyda pentref Trefor yn un o'r ddau ffynhonnell yn y byd.

Timau cwrlo menywod Denmarc a'r Swistir yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf 2010

Cymdeithas Cwrlio Cymru

[golygu | golygu cod]

Yn 1974 sefydlwyd Cymdeithas Cwrlo Cymru (sillefir fel "cwrlio" nid "cwrlo"). Dyma'r corff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer y gamp yng Nghymru. Ar wahân i westeion, mae pob cwrlwr sy'n chwarae yng Nghymru yn aelod o'r WCA, ac yn talu ardoll flynyddol tuag at ei chynnal. Mae’r WCA yn gyfrifol am ddewis timau – drwy dwrnament cenedlaethol neu ddulliau eraill – i gynrychioli Cymru ar lefel ryngwladol.

Mae Cymru’n rhoi timau i mewn i nifer o ddigwyddiadau rhyngwladol gan gynnwys cystadlaethau Dynion Ewropeaidd, Byd Cymysg, Dwbl Cymysg y Byd a Chystadlaethau Hŷn y Byd, sy’n cael eu rhedeg yn flynyddol gan Ffederasiwn Cyrlio’r Byd.[1]

Meini Cwrlo a'r cysylltiad Cymreig

[golygu | golygu cod]

Mae gwenithfaen Chwarel yr Eifl yn cael ei defnyddio, ymysg pethau eraill, i gynhyrchu meini cwrlo, y cerrig a ddefnyddir wrth chwarae cwrlo. Mae cwrlo'n debyg i fowlio ar iâ, gyda'r chwaraewyr yn anelu cerrig trymion tuag at darged ar hyd arwyneb sydd wedi ei rewi. Mae'n gamp a chwaraeir yn y Gemau Olympaidd ac, yn 2002, cerrig o Drefor yn unig a ddefnyddid yn y gemau hynny. Trefor yw un o ddim ond dwy ffynhonnell o wenithfaen a ganiateir gan gorff llywodraethol rhyngwladol y gamp - y ffynhonnell arall yw ynys Creag Ealasaid (Ailsa Craig) yn Swydd Ayr yn yr Alban. Cyfyngir ar darddiad y cerrig er mwyn sicrhau safon gyfartal rhwng chwaraewyr, a dewiswyd gwenithfaen Trefor oherwydd ei lefel arbennig iawn o galedwch a'i gallu i beidio ag amsugno hyd yn oed y diferyn lleiaf o hylif.[2]

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "About us". Gwefan Cymdeithas Cwrlo Cymru. Cyrchwyd 16 Awst 2024.
  2. "Meini Cwrlo". Canolfan Hanes Uwch Gwyrfai. Cyrchwyd 15 Awst 2024.
Eginyn erthygl sydd uchod am chwaraeon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.