Cymdeithas Archaeoleg Trefynwy
Gwedd
Math | sefydliad |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Trefynwy |
Gwlad | Cymru |
Mae Cymdeithas Archaeoleg Trefynwy yn gymdeithas sy'n ymwneud ag archaeoleg leol a'i haelodau'n amaturiaid ac yn archeolegwyr proffesiynol. Mae'r gymdeithas yn ceisio hyrwyddo cadw a gwarchod arteffactau a safleoedd archeolegol, cyhoeddi gwybodaeth a chynnal ymchwiliadau archeolegol yn Nhrefynwy a'r cylch. Sefydlwyd y gymdeithas yn wreiddiol gan Arthur Sockett a oedd yn athro yn Ysgol Trefynwy ar gyfer bechgyn yr ysgol.
Enillodd y gymdeithas Wobr Pitt Rivers ym 1988 a'r Trywel Arian am y Syniad Archeolegol gorau.
Mae cyfansoddiad y gymdeithas yn dal i ddweud mai pum swllt ydy'r tâl aelodaeth.