Cyngor Trent
Sesiwn Cyngor Trent yn eglwys Santa Maria Maggiore, Trento, yn ystod 1633; paentiad gan Elia Naurizio (1589–1657) | |
Enghraifft o: | synod |
---|---|
Label brodorol | Concilio di Trento |
Dechreuwyd | 1545 |
Daeth i ben | 21 Chwefror 1563 |
Rhagflaenwyd gan | Pumed Cyngor y Lateran |
Olynwyd gan | Cyngor Cyntaf y Fatican |
Enw brodorol | Concilio di Trento |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Deunawfed Gyngor Eciwmenaidd yr Eglwys Gatholig, a alwyd gan y Pab Pawl III i wrthsefyll effeithiau'r Diwygiad Protestannaidd, oedd Cyngor Trent (1545–1547, 1551–1552, 1562–1563).
Fe'i cynhaliwyd dair gwaith rhwng 13 Rhagfyr 1545 a 4 Rhagfyr 1563 yn ninas Trent (Trento heddiw, yng ngogledd yr Eidal) fel ymateb gan yr Eglwys Gatholig i'r bygythiad i'w hathrawiaeth ddiwinyddol a'i hawdurdod eglwysig gan y Diwygiad Protestannaidd. Fe'i hystyrir yn un o'r cynghorau pwysicaf yn hanes yr Eglwys Gatholig. Ynddo gosodwyd allan yn eglur yr athrawiaeth Gatholig ar iachawdwriaeth, y sagrafen, a'r canon Beiblaidd awdurdodedig. Penderfynwyd cael canllawiau cydnabyddedig am weinyddu'r Offeren, yn bennaf trwy ddileu amrywiadau lleol: gelwir hyn yn "Offeren Trent" (Saesneg: Tridentine Mass, o Tridentum, enw Lladin Trent). Condemniwyd dysgeidiaeth Martin Luther.