Location via proxy:   [ UP ]  
[Report a bug]   [Manage cookies]                
Neidio i'r cynnwys

Cyngor yr Ucheldir

Oddi ar Wicipedia
Cyngor yr Ucheldir
Mathun o gynghorau'r Alban Edit this on Wikidata
PrifddinasInverness Edit this on Wikidata
Poblogaeth235,540 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1975 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadUcheldiroedd yr Alban Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd25,657.1465 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau57.5°N 5°W Edit this on Wikidata
Cod SYGS12000017 Edit this on Wikidata
GB-HLD Edit this on Wikidata
Map

Ardal Cyngor yr Ucheldir (Gaeleg yr Alban: Sgìre Comhairle na Gàidhealtachd; Saesneg: Highland Council) yng ngogledd yr Alban yw'r fwyaf o ran arwynebedd o holl raniadau llywodraeth leol yr Alban a Phrydain o bell ffordd (arwynebedd 30,659 km², cymharer: Cymru gyfan 20,779 km²).

Ardal Cyngor yr Ucheldiroedd yn yr Alban

Nid yw'r ardal a reolir gan y Cyngor yn cyfateb i ardal ddaearyddol Ucheldiroedd yr Alban. Mae rhannau o ardal ddaearyddol yr Ucheldiroedd yn dod dan awdurdodau Moray, Swydd Aberdeen, Perth a Kinross, Argyll a Bute, Angus a Stirling. Mae ardal y Cyngor yn cynnwys y rhan fwyaf o Ynysoedd Mewnol Heledd.

Crëwyd y Cyngor fel awdurdod rhanbarthol yn 1975, a daeth yn awdurdod unedol yn 1996. Y brif dref yw Inverness.

Castell Eilean Donan yn Loch Duich