Cytundeb München
Enghraifft o'r canlynol | cession, cytundeb, cytundeb |
---|---|
Dyddiad | 29 Medi 1938 |
Rhan o | Dyhuddiad |
Iaith | Tsieceg |
Dyddiad cyhoeddi | 30 Medi 1939 |
Lleoliad | Führerbau |
Prif bwnc | Adolf Hitler, Édouard Daladier, Benito Mussolini, Neville Chamberlain |
Gwladwriaeth | yr Almaen |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Arwyddwyd Cytundeb München yn ninas München yn ne yr Almaen yn oriau cynnar 30 Medi 1938 (ond wedi ei dyddio 29 Medi), rhwng Adolf Hitler, Canghellor yr Almaen a'i gyngrheiriad Benito Mussolini, arweinydd yr Eidal, a Neville Chamberlain, prif weinidog y Deyrnas Unedig a Raymond Daladier, prif weinidog Ffrainc.
Roedd Hitler yn hawlio tiriogaeth y Sudetenland, ardal lle roedd mwyafrif y trigolion yn Almaenwyr ethnig, oddi ar Tsiecoslofacia. Gwrthwynebid hyn yn gryf gan lywodraeth Tsiecoslofacia, a datganodd yr Undeb Sofietaidd eu bod yn barod i roi cefnogaeth filwrol i'r Tsieciaid, ond dim ond os byddai Prydain a Ffrainc yn ymuno â hwy. Yng Nghynhadledd München, cytunodd Prydain a Ffrainc i roi'r Sudetenland i Hitler, gan osgoi rhyfel am y tro.
Ymraniadau pellach Tsiecoslofacia
[golygu | golygu cod]Yn sgil llwyddiant trosglwyddo tiroedd Almaenwyr ethnig i'r Reich, bu pwysau o du Miklós Horthy arweinydd Hwngari i an-ennill tiroedd Hwngaraidd a gollwyd yng Nghytundeb Trianon wedi'r Rhyfel Mawr. Er mwyn osgoi rhyfel lleol, cynulliodd powerau'r Echel (Yr Almaen a'r Eidal) Gyflafareddiadau Fienna. Yn sgil hyn dioddefodd Gwerinaieth Tsiecoslofacia gan ymraniad pellach yn Dyfarniad Gyntaf Fienna ar 2 Tachwedd 1939 pan roddwyd tiroedd Slofacia oedd yn ffinio Hwngari i Hwngari.
Yn 1939, ymosododd Hitler ar Wlad Pwyl, a'r tro hwn cyhoeddodd Ffrainc a Phrydain ryfel ar yr Almaen, gan ddechrau'r Ail Ryfel Byd.