Dick Dale
Dick Dale | |
---|---|
Ffugenw | Dick Dale |
Ganwyd | Richard Anthony Monsour 4 Mai 1937 Boston |
Bu farw | 16 Mawrth 2019 o methiant y galon Loma Linda |
Label recordio | Capitol Records, HighTone Records |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gitarydd, cyfansoddwr, cynhyrchydd recordiau, cerddor roc |
Arddull | surf music, roc a rôl, roc offerynnol |
Gwefan | http://www.dickdale.com/ |
Gitarydd roc Americanaidd oedd Dick Dale (Richard Anthony Monsour; 4 Mai 1937 – 16 Mawrth 2019).
Ganwyd Richard Anthony Monsour yn Boston, Massachusetts, i dad Libanaidd a mam o Bwyles. Cafodd ei fagu mewn cymdogaeth o fewnfudwyr Libanaidd yn Quincy, Massachusetts. Dysgodd i ganu'r piano, y trwmped, yr iwcalili, a'r gitâr. Symudodd y teulu i El Segundo, Califfornia, tref ar lannau'r Cefnfor Tawel ger Los Angeles, pan gafodd ei dad swydd gyda'r Hughes Aircraft Company. Yno, mynychodd Richard yr uwchysgol leol a dysgodd sut i syrffio. Perfformiodd yn nhafarnau canu gwlad y dref dan yr enw Dick Dale.[1]
Trwy ganu graddfeydd cerddorol Arabaidd ar y gitâr drydan, a chyfuno effeithiau dirgrynnol yr offeryn gyda dull cyflym o blicio'r dôn ar linynnau trymion, Dale oedd prif arloeswr y genre a elwir surf rock.[2] Perfformiodd yn wythnosol i ryw 3000 ddawnswyr yn eu harddegau, nifer ohonynt yn syrffwyr, yn neuadd y Rendezvous ar orynys Balboa, Newport Beach.[3] Roedd ei ddull o ganu'r gitâr yn achosi'r chwyddleisyddion i ffrwydro. Ymwelodd Dale a'r gwneuthurwr gitarau Leo Fender â'r cwmni James B Lansing i greu chwyddleisydd newydd a allai ymdopi â cherddoriaeth roc Dale. Meddai Fender, "When it can withstand the barrage of punishment from Dick Dale, then it is fit for human consumption".[1]
Cyhoeddodd y sengl "Let's Go Trippin'" (1961) ar label recordio'i hunan, Del-Tone Records. Rhyddhaodd y sengl offerynnol "Misirlou" yn 1962, addasiad o gân Roegaidd draddodiadol gyda graddfeydd Arabaidd ac atseiniau'r gitâr drydan. Cafodd y gân ei defnyddio yn y ffilm Pulp Fiction (1994). Rhyddhaodd ei albwm cyntaf, perfformiad byw yn y Rendezvous o dan yr enw Surfers' Choice, yn 1962. Arwyddodd contract â Capitol Records yn 1963, a chyda'r label hwnnw recordiodd ei albymau stiwdio King of the Surf Guitar (1963), Checkered Flag (1963), Mr. Eliminator (1964), a Summer Surf (1964). Ymddangosodd Dale mewn sawl ffilm am bobl yn eu harddegau yn ne Califfornia, gan gynnwys Beach Party (1963) a Muscle Beach Party (1964).
Penderfynodd Dale ymddeol yn 1967, pan gafodd diagnosis o ganser y rectwm. Dychwelodd i berfformio a recordio cerddoriaeth yn y 1980au, a bu'n weithgar nes diwedd ei oes, yn rhannol oherwydd costau ei driniaeth feddygol. Bu farw yn 81 oed yng Nghanolfan Feddygol Prifysgol Loma Linda, Califfornia, ym mha le'r oedd yn derbyn triniaeth am fethiant y galon a'r afu.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Garth Cartwright, "Dick Dale obituary", The Guardian (18 Mawrth 2019). Adalwyd ar 25 Mawrth 2019.
- ↑ (Saesneg) Daniel Kreps, "Dick Dale, King of the Surf Guitar, Dead at 81", Rolling Stone (17 Mawrth 2019). Adalwyd ar 25 Mawrth 2019.
- ↑ (Saesneg) Randall Roberts a Randy Lewis, "Dick Dale, pioneer of the surf guitar, dies at 81", Los Angeles Times (17 Mawrth 2019). Adalwyd ar 25 Mawrth 2019.
- ↑ (Saesneg) Emily S. Rueb a Jon Pareles, "Dick Dale, 81, King of the Surf Guitar, Dies", The New York Times (17 Mawrth 2019). Adalwyd ar 25 Mawrth 2019.