Diwan
Math o gyfrwng | sefydliad addysgol |
---|---|
Math | ysgol |
Rhan o | education in France |
Dechrau/Sefydlu | 1977 |
Lleoliad yr archif | Centre for Breton and Celtic Research |
Gwladwriaeth | Ffrainc |
Gwefan | http://www.diwan.bzh |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mudiad ysgolion Llydaweg yn Llydaw yw Diwan (/ˈdiwɑ̃n/ "hedyn"). Gweithreda y tu allan i gyfundrefn addysgol ganolog Ffrainc am fod Diwan yn dysgu'n gyfan gwbl trwy gyfrwng y Llydaweg. Maent felly yn gorfod codi llawer o'u harian eu hunain, er eu bod yn derbyn rhywfaint o arian cyhoeddus.[1] Diwan rhan o rwydwaith Eskolim gydag ysgolion trwytho mewn gwledydd eraill sy'n rhan o wladwriaeth Ffrainc, sef Seaska (rhwydwaith ysgolion Ikastola) yng Ngwlad y Basg, Calandreta yn Ocsitania, ABCM-Zweisprachigkeit yn Alsace, La Bressola yn Ngwledydd Catalwnia a Scola Corsa yn Nghorsica.
Hanes
[golygu | golygu cod]Crëwyd yr ysgol Diwan gyntaf yn Lambaol-Gwitalmeze (Ffrangeg Lampaul-Ploudalmézeau) ger Brest, yn 1977, o ganlyniad i'r galw am addysg trwy gyfrwng yr iaith. Roedd hyn wedi rhai blynyddoedd o adfywiad gwleidyddol o du y Lydaweg gan fudiadau fel Skol an Emsav ac eraill.
Mae'r ysgolion yn trochi'r plant yn yr iaith, yn debyg i ysgolion penodedig Cymraeg, ac roedd 2,200 o ddisgyblion yn mynd i ysgolion Diwan ar draws Llydaw yn 2005. Agorodd yr ysgol Diwan gyntaf ym Mharis ym mis Medi 2004. Erbyn Medi 2012 roedd ffigyrau a gyhoeddwyd yn "le Telegramme-Finisterre" yn dangos bod 14.709 yn derbyn addysg dwyieithog Llydaweg-Ffrangeg; rhyw 3.625 ohonynt efo ysgolion Diwan; 6.260 efo Div Yezh (dan y llywodraeth); a 4.824 efo Dihun (ysgolion Catholig), mae hyn yn golygu y bu cynnydd o 35% dros gyfnod o dair blynedd. Erbyn 2021, roedd tua 19,000 sef oddeutu 2% o blant Llydaw yn derbyn addysg ddwyieithog neu Llydaweg, ond dim ond tua 4,000 o'r rheini mewn ysgolion Diwan.[1]
Dyddiadau
[golygu | golygu cod]- Ebrill 1977: creu sefydliad Diwan; Gweltaz ar Fur oedd y cadeirydd.
- Mai 1977: y dosbarth cynradd cyntaf, gyda 5 plentyn yn Lambaol-Gwitalmeze; Denez Abernot oedd yr ysgolfeistr.
- Medi 1977: Agor ysgol gynradd Diwan Kemper.
- Medi 1980: Agor dosbarth blwyddyn un yn Treglonoù.
- Medi 1988: Agor y skolaj (ysgol ganol) Diwan gyntaf ym Mrest gyda 8 disgybl blwyddyn 6. Dwy flynedd yn ddiweddarach, symudodd yr ysgol i'r Releg-Kerhuon.
- Medi 1994: Agor lise (ysgol uwchradd) Diwan am y tro cyntaf yn y Releg-Kerhuon.
- Medi 1995: Creu ail skolaj (ysgol ganol) yn Plijidi yn Aodoù-an-Arvor. Agorodd dwy arall yn fuan wedyn, un yn Kemper a'r llall yn Plañvour, a symudodd i Gwened wedyn. Symudwyd dosbarthiadau o Treglonoù i Gwiseni.
- 1997: Trydedd lise Diwan yn Karaez-Plougêr.
- Medi 2006: Agor ysgolion yn Louaneg ac yn y Chapel-Nevez. Symudwyd rhai o ddosbarthiadau Skolaj ar Releg-Kerhuon i Gwiseni.
- Hydref 2007: Agor Ysgol Diwan Kastellin.
- Medi 2008: Agor Skolaj Diwan al Liger-Atlantel yn Sant-Ervlan ac ysgolion Lokournan-Leon a Magoer ar gyrion Roazhon.
- Medi 2009: Agor ysgolion Rianteg ym Mro-Wened a Savenneg ym Mro-Naoned.
- Chwefror 2010: Creu Roc'h Diwan, sefydliad sy'n berchen ar adeiladau'r ysgolion ac ati.
- Medi 2010: Agor Ysgol Diwan Plogastell-Sant-Jermen yn Kerne.
- Medi 2012: Agor ysgolion Pornizh a Landivizio.
- Medi 2013: Agor ysgolion Boulvriag a Felger. Cau ysgol Pornizh.
- Medi 2015: Agor Ysgol Pontekroaz; cau ysgol Diwan Paris.
- Medi 2016: Agor ysgol Sant-Ervlan.
- Rhagfyr 2016: Cau ysgol Landivizio.
- Medi 2016: Agor ysgol Plougastell-Daoulaz.
- Medi 2018: Agor ysgol Plougerne.
- Medi 2019: Agor Lise (ysgol uwchradd) Gwened
- Medi 2020: Trydydd ysgol yn Kemper. Ysgol Kistreberzh yn cau.
30 mlynedd o fodolaeth
[golygu | golygu cod]Cafodd Diwan ei 30ain pen blwydd yn 2008 yn Karaez, yng nghanol Llydaw.
Yn erbyn Diwan
[golygu | golygu cod]Mae rhai o bobl sy'n agos at lywodraeth Ffrainc yn siarad yn amal yn erbyn ysgolion Diwan. Yn eu mysg mae'r aelod seneddol sosialaidd (hen drotskydd) Jean-Luc Mélenchon a hefyd yr awdures Ffrangeg, Françoise Morvan.
Diwan a'r Redadeg
[golygu | golygu cod]Mae'r ras di-gystadleuaeth Redadeg yn ddigwyddiad torfol a gynhelir bob dwy flynedd, wedi codi arian tuag at rhwydwaith ysgolion Diwan. Mae'r 'ras' yn seiliedig ar y Korrika Basgeg ac a ysbrydolodd y Ras yr Iaith Gymraeg.[2] Mae plant ysgolion Diwan a'u cefnogwyr wedi rhedeg ym mhob un Redadeg gan godi miloedd i'r mudiad.[3] Ers sefydlu'r Redadeg yn 2008 mae mudiad Diwan wedi derbyn Since 2008 (hyd at Hydref 2023) €499,600.[4]
Ysgolion Llydaweg eraill
[golygu | golygu cod]Wedi creu'r ysgolion Diwan, fe wnaeth sefydliadau addysg gyhoeddus (1979) ac addysg breifat (1990) greu systemau dysgu Llydaweg eu hunain, ac maent yn fwy o ran niferoedd na'r ysgolion Diwan bellach:
- Mae Dihun Breizh yn gymdeithas rhieni gyda'u plant yn mynychu dosbarthiadau dwyieithog yn y system breifat Gatholig (tua 9,000 o ddisgyblion yn 2021[1])
- Mae Div yezh Breizh yn gymdeithas rhieni gyda'u plant yn mynychu dosbarthiadau dwyieithog yn y system gyhoeddus (tua 5,000 o ddisgyblion yn 2021[1]).
Nid ysgolion trochi mo'r rhain, ond system o ddysgu dwyieithog, gyda hanner y cynnwys yn Ffrangeg.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 "Trobwynt i ieithoedd Ffrainc?". pedwargwynt.cymru. Cyrchwyd 2022-09-06.
- ↑ "Bretons run in the first Ar Redadeg to Support the Breton language". Nationalia. 20 Ebrill 2009.
- ↑ "Skolajidi o redek a-dreuz bourc'h Plijidi!". Sianel Youtube Ar Redadeg. 23 Mai 2024.
- ↑ "Funded projects". Gwefan Ar Redadeg. Cyrchwyd 12 Awst 2024.